Gwaharddiad dysgu i athro am gynhyrchu cocên
- Cyhoeddwyd

Mae athro wedi ei wahardd rhag dysgu am oes ar ôl iddo droi ei gartref yng Nghaerdydd yn labordy cynhyrchu cocên.
Roedd Macphallen Kuwale, 49, yn gweithio yng Ngholeg Cymunedol y Dderwen ym Mhen-y-Bont ar Ogwr, tra'n rhedeg cynllyn "soffistigedig" i gyflenwi cyffuriau o'i gartref.
Dywedodd Heddlu De Cymru fod Kuwale, oedd yn athro technoleg gwybodaeth, yn berchen ar ddefnyddiau fyddai wedi gallu cynhyrchu cyffuriau dosbarth A gwerth £2m ar y stryd.
Cafodd Kuwale, sydd yn dod o Malawi yn wreiddiol, ei wahardd am oes mewn gwrandawiad o Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, ar ôl i'r cyngor glywed am ei droseddau.
Offer cynhyrchu cyffuriau
Pan aeth yr heddlu i'w gartref fe ddaeth swyddogion o hyd i offer cynhyrchu cyffuriau oedd werth canoedd o filoedd o bunoedd.
Roedd ganddo sachau 20kg o dabledi meddygol lladd poen oedd werth £990,000. Byddai'r tabledi wedi gallu cael eu cymysgu gyda chocên er mwyn cynyddu gwerth y cyffur.
Dywedodd Kuwale wrth yr heddlu nad oedd yn gyflenwr cyffuriau, ac mai dim ond edrych ar ôl y cyffuriau i ffrindiau dienw fel "ffafr" oedd yn ei wneud.
Fe ddywedodd hefyd ei fod yn cludo pecynnau ar ran ffrindiau, ond nad oedd yn gwybod beth oedd yn y pecynnau hyn.
Yn Llys y Goron Caerdydd fe gyfaddefodd i fod â chyffur oedd wedi ei reoli yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi.
Llwyddodd Macphallen Kuwale i guddio'r ffaith ei fod wedi cael ei arestio oddi wrth ei gyflogwr, ac fe fuodd yn gweithio yng Ngholeg Cymunedol y Dderwen am bedwar mis cyn ei ymddangosiad yn y llys.
Clywodd y gwrandawiad o Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru nad oedd na unrhyw dystiolaeth i awgrymu fod Kuwale wedi bod yn cyflenwi cyffuriau i ddisgyblion yn yr ysgol lle roedd yn dysgu.
'Rhan flaenllaw'
Yn dilyn y gwrandawiad, fe ddywedodd y ditectif Timothy Jones ar ran Heddlu De Cymru: "Roedd Kuwale yn chwarae rhan flaenllaw mewn cyflenwi cocên.
"Roedd yn flaenllaw mewn delio ar y strydoedd yn ogystal â rhedeg cynllun soffistigedig ar raddfa eang.
"Mae'n hollol anarferol. Tydi o ddim yn rhywbeth yr ydych yn ei weld bob dydd."
Fe ddefnyddiodd Kuwale, o Lanrhymni Caerdydd, y ffug enw 'Mac', ac roedd yn trefnu i werthu cyffuriau drwy ddefnyddio nifer o negeseuon testun cymhleth.
Dywedodd prifathro'r ysgol, Andrew Warren: "Roedd Kuwale wedi bod yn gweithio yn y coleg newydd ers blwyddyn.
"Ond roedden ni'n sylweddoli bod myfyrwyr yn cael trafferth i'w ddeall o achos ei acen gref. Roedd na bryderon am ei berfformiad dysgu ond fe gafodd pob cymorth gyda'i ynghanu."
Doedd Macphallen Kuwale ddim yn y gwrandawiad yng Nghaerdydd ddydd Iau, ond fe ymddiheurodd am ei ymddygiad mewn datganiad.