£12m i wella gorsafoedd rheilffyrdd

  • Cyhoeddwyd
Llandaf
Disgrifiad o’r llun,
Mae gorsaf Llandaf ymysg y safleoedd fydd yn derbyn nawdd

Mae Edwina Hart, Gweinidog Trafnidiaeth llywodraeth Cymru, wedi cyhoeddi y bydd £12 miliwn yn cael ei wario ar wella mynediad i bump o orsafoedd trenau ar draws Cymru.

Bydd arian o raglen Mynediad i Bawb yn cael ei wario yng ngorsafoedd y Waun, Llandaf, Machynlleth, Radyr ac Ystrad Mynach i greu mynediad heb risiau ac heb rwystrau.

Fe fyddan nhw'n gwneud hyn drwy adeiladu pontydd troed, lifftiau a rampiau.

Bydd y gwaith yn dechrau yng ngorsaf Ystrad Mynach yn ddiweddarach ym mis Mawrth a bydd y gwaith yn y gorsafoedd eraill yn dechrau ym mis Mai a Mehefin.

Bydd y gwelliannau yn cynnwys:

Y Waun

Bydd gorsaf y Waun yn cael £2 filiwn i adeiladu esgynfa newydd ar ffurf pont droed fydd yn ei gwneud hi'n haws i deithwyr ddefnyddio platfform un (platfform ar gyfer trenau'n mynd tua'r De).

Hefyd, bydd man gollwng teithwyr yn cael ei adeiladu a meysydd parcio i bobl anabl; bydd arwyddion yr orsaf yn cael eu diweddaru a bydd palmant newydd yn cael ei osod.

Llandaf

Bydd prosiect gwerth £2.5 miliwn yng ngorsaf Llandaf yn cynnwys adeiladu pont droed risiog newydd a dau lifft; bydd y datblygiadau hyn yn ei gwneud hi'n haws i gyrraedd platfform dau (ar gyfer trenau i Gaerdydd).

Hefyd, bydd man gollwng teithwyr yn cael ei adeiladu a meysydd parcio i'r anabl; bydd yr arwyddion yn cael eu diweddaru a bydd palmant newydd yn cael ei osod.

Machynlleth

Bydd gorsaf Machynlleth yn cael £2.5 miliwn i adeiladu pont droed grisiog newydd a dau lifft fydd yn ei gwneud hi'n haws i deithwyr groesi o un platfform i'r llall. Bydd y gwelliannau'n ei gwneud hi'n orsaf heb risiau a heb rwystrau a bydd hi'n haws i deithwyr gyrraedd y ddau blatfform, y swyddfa docynnau, y caffi a'r ystafell aros o'r brif fynedfa.

Hefyd, bydd man gollwng teithwyr a meysydd parcio i'r anabl yn cael eu hadeiladu. Bydd yr arwyddion yn cael eu diweddaru, bydd palmant newydd yn cael ei osod yn ogystal â dolen sain yn y swyddfa docynnau a bydd y toiled i'r anabl yn cael ei ailwampio.

Radyr

Yn Radyr, bydd £3 miliwn yn cael ei wario ar bont droed risiog a thri lifft fydd yn ei gwneud hi'n haws i gyrraedd y platfformau.

Ystrad Mynach

Fel rhan o'r prosiect gwerth £2 miliwn yn Ystrad Mynach, bydd pont droed risiog a dau lifft yn cael eu hadeiladu fydd yn helpu teithwyr i groesi o un platfform i'r llall. Bydd y gwelliannau'n ei gwneud hi'n orsaf heb risiau a heb rwystrau a bydd hi'n haws i gyrraedd y ddau blatfform, y swyddfa docynnau a'r ystafell aros o'r brif fynedfa.

'Buddsoddiad sylweddol'

Dywedodd Mrs Hart: "Bydd y cynllun hwn yn gwella mynediad i nifer o'n gorsafoedd trenau a bydd yn sicrhau y gall mwy o bobl ddefnyddio'r trên. Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol arall gan Lywodraeth Cymru i fodloni ein hamcanion sef cynnal system reilffyrdd yng Nghymru sy'n fodern, yn hawdd mynd ati ac sy'n fforddiadwy.

"Mae llawer o bobl, gan gynnwys rhai o'n dinasyddion mwyaf agored i niwed, yn dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus i allu mynd i'r gwaith neu i ddefnyddio gwasanaethau. Rwyf am sicrhau bod pob un o'n gorsafoedd trenau yn hawdd i bobl fynd atynt fel bod ein teithwyr yn cael profiad pleserus wrth deithio."

Mae'r rhaglen wedi cael £7 miliwn gan Lywodraeth Cymru a £5 miliwn gan yr Adran Drafnidiaeth. Network Rail fydd yn gwneud y gwaith.

Dywedodd Mark Langman, Rheolwr Gyfarwyddwr Llwybrau Network Rail Cymru: "Bydd y gwelliannau hyn, sy'n cynnwys pontydd troed, rampiau a lifftiau newydd yn ei gwneud hi'n haws i deithwyr gyrraedd y platfformau a chroesi o un i'r llall.

"Os nad oes grisiau yn y gorsafoedd, bydd hi'n haws i deithwyr anabl a rheini sydd â phroblemau symudedd ddefnyddio'r gorsafoedd yn ogystal â phobl sydd â phlant, bagiau trwm neu siopa.

"Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y gwelliannau'n sicrhau ei bod yn haws i bobl ddefnyddio'r gorsafoedd a'r rhwydwaith rheilffyrdd. Efallai na fyddai modd i bobl eu defnyddio fel arall."