Heddlu'n ymchwilio i honiad o gelu gendigaeth
- Cyhoeddwyd

Mae pabell wedi ei osod y tu allan i'r tŷ ym Mhontardawe
Mae Heddlu De Cymru yn dweud bod dynes wedi cael ei harestio fel rhan o ymchwiliad i honiad o gelu genedigaeth yn ardal Abertawe flynyddoedd yn ôl.
Dywedodd yr heddlu eu bod yn ymchwilio wedi iddyn nhw dderbyn gwybodaeth am ddigwyddiad honedig yn 1976.
Mae dynes 58 oed o ardal Abertawe wedi cael ei holi a'i rhyddhau ar fechnïaeth tra bod yr ymchwiliad yn parhau.
Mae crwner Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot wedi cael gwybod.
Dywedodd yr heddlu nad oedd y teulu sydd bellach yn byw yn y tŷ ble honnir i'r achos ddigwydd yn rhan o'r ymchwiliad.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol