Tîm rygbi cadair olwyn newydd i'r gogledd

Cyhoeddwyd
disgrifiad o’r llunY gobaith yw y bydd mwy o blant yn trio chwaraeon anabledd fel rygbi cadair olwyn

Mae tîm rygbi cadair olwyn newydd wedi ei sefydlu yn Wrecsam i geisio hybu chwaraeon anabledd yn yr ardal.

Mewn partneriaeth â chlwb rygbi 13 proffesiynol 'Crusaders Gogledd Cymru', mae clwb rygbi cadair olwyn â rhaglen gymunedol wedi eu sefydlu yn y dref.

Fel rhan o'r cynllun, bydd mwy o gysylltiad gyda phlant ysgol i gynyddu ymwybyddiaeth am chwaraeon anabledd.

Mae'r tîm yn cystadlu mewn cynghrair genedlaethol, ac mae chwech o'u chwaraewyr wedi cystadlu dros Gymru yn y gorffennol.

Camp gorfforol

Yn ôl y Ffederasiwn Rygbi Cadair Olwyn Ryngwladol, cafodd y gamp ei chreu yn 1977 gan athletwyr wedi eu parlysu.

ffynhonnell y llun, Getty Images
disgrifiad o’r llunCafodd rygbi cadair olwyn ei dderbyn fel camp paralymaidd swyddogol yn 1994

Mae'n cyfuno elfennau o rygbi, pêl-fasged a llawbel (handball), gyda thimau o bedwar yn ceisio cario'r bêl dros linell gol y tîm arall.

Mae'n gamp gorfforol, gyda chwaraewyr yn taro i mewn i'w gilydd gyda'u cadeiriau i'w harbed rhag cyrraedd y llinell.

Mae'r gamp bellach yn cael ei gynnwys yn y Gemau Paralympaidd, gyda 26 o wledydd yn cystadlu eisoes, a 10 arall yn datblygu timau cenedlaethol.

Gyda chefnogaeth Chwaraeon Anabledd Cymru a Cyngor Sir Fflint, mae tîm y Crusaders nawr yn gobeithio denu mwy o chwaraewyr ar gyfer y tymor nesaf.

'Datblygu chwaraeon o safon'

Dywedodd Donna Bullivant-Evans, Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cyngor Sir y Fflint: "Mae'n braf cael clwb mor weithgar sy'n awyddus i ddatblygu chwaraeon o safon i bobl anabl.

"Drwy weithio mewn partneriaeth, gallwn godi ymwybyddiaeth o chwaraeon pobl anabl ac annog cannoedd o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon cadair olwyn."

Mae cyfarwyddwr Crusaders Gogledd Cymru, Bob Wilson, yn edrych ymlaen at ddenu aelodau newydd.

"Mae Crusaders Gogledd Cymru yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth â Chwaraeon Anabledd Cymru a Chwaraeon Sir y Fflint.

"Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy yw cartref rygbi'r gynghrair yng Nghymru ac mae tîm cadair olwyn y Crusaders yn ymarfer ac yn chwarae eu gemau yno.

"Rydym yn edrych ymlaen at y tymor nesaf ac at groesawu chwaraewyr newydd i'n clwb."

Straeon perthnasol