Ysgol uwchradd mewn mesurau arbennig
- Cyhoeddwyd

Yn dilyn arolwg, mae mesurau arbennig wedi eu gosod ar ysgol uwchradd ym Mhowys gan Estyn.
Fe ddywedodd Cyngor Powys bod arolwg Estyn o Ysgol Uwchradd Aberhonddu yn "siomedig iawn".
Fe fydd tîm o swyddogion gwella ysgol o gynghorau Powys a Cheredigion yn cefnogi'r ysgol uwchradd.
Yn ogystal, fe fydd cynllun gweithredu'n cael ei lunio i ddatrys y problemau.
Nawr, fe fydd arolygwyr yn ymweld ag Ysgol Uwchradd Aberhonddu bob tymor i fonitro cynnydd.
'Pryder mawr'
Yn dilyn ymweliad monitro gan Estyn fis Chwefror, fe benderfynwyd nad oedd yr ysgol wedi gwella digon ers argymhellion arolwg yn 2012.
Mae'r corff wedi israddio safon yr ysgol o "un sydd angen gwelliant sylweddol" i un sydd "angen mesurau arbennig".
Meddai aelod Cabinet Cyngor Powys dros Addysg a Gwasanaethau Plant, Myfanwy Alexander: "Mae'r adroddiad yn siomedig iawn ac yn destun pryder mawr i'r ysgol, y corff llywodraethol a'r cyngor.
"Mae'r adroddiad a'i argymhellion, sydd wedi ei dderbyn gan y prifathro, staff a'r corff llywodraethol, yn deg iawn ac fe fydd yn ffurfio sylfaen i gynllun gweithredu manwl er mwyn canolbwyntio ar fannau allweddol sydd angen eu gwella.
"Fe fydd y cyngor a chyd-weithwyr gwella ysgol o Geredigion yn gweithio gyda'r ysgol a'i chorff llywodraethol i adnabod y rhesymau am ganlyniadau'r arolwg, ac i wneud yn siwr y byddwn ni'n cynnig gwelliannau sylweddol a chyflym."
'Hanes cythryblus'
Fe ddywedodd cadeirydd llywodraethwyr yr ysgol David Meredith fod yr ysgol yn derbyn bod cynnydd wedi bod yn rhy araf, ar y cyfan.
Ychwanegodd: "Mae'r ysgol wedi bod â hanes cythryblus yn y blynyddoedd diweddar ac rwy'n hyderus bod hynny y tu ôl i ni yn llwyr."
Ysgol Uwchradd Aberhonddu yw'r ail ysgol ym Mhowys i gael ei rhoi mewn mesurau arbennig.
Cafodd Ysgol John Beddoes yn Llanandras ei rhoi yn y categori ym mis Rhagfyr 2012.
Fis Rhagfyr y llynedd, fe ganiataodd y Gweinidog Addysg Huw Lewis gynllun i gau'r ysgol ym mis Ebrill, pan ddaw'n rhan o gampws Ysgol Uwchradd y Drenewydd.
Eleni, cafodd cynllun i agor campws gwerth £75m i ddod yn lle Ysgol Uwchradd Aberhonddu, coleg addysg bellach a chanolfan hamdden yn y dre ei ohirio am flwyddyn.
Nawr, mae disgwyl i'r campws hwnnw agor ym mis Medi 2018.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd1 Mai 2013
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2012