Trosedd rywiol: Carcharu plismon
- Cyhoeddwyd

Mae plismon 47 oed o Landudno wedi ei garcharu am 18 mis am gamdrin merch yn ei harddegau yn rhywiol.
Fe gafwyd Gary Donnelly'n euog o ddau achos o ymosod yn anweddus ar ferch 14 oed yn 2002.
Roedd Donnelly'n parhau i wadu'r cyhuddiadau yn ystod yr ail achos llys hwn.
Fe fethodd rheithgor ddod i benderfyniad mewn achos blaenorol.
Fe ddywedodd Donnelly wrth y ferch ei bod hi'n ei atgoffa o'i wraig, oedd wedi marw fisoedd cyn hynny wrth eni plentyn.
'Amser trawmatig'
Meddai'r Cofiadur Huw Rees: "Fe gafodd y troseddau eu cyflawni ar amser trawmatig i chi, tua deufis wedi marwolaeth drasig eich gwraig".
Roedd o'n 35 oed ar y pryd, a'r ferch yn 14.
Fe ymunodd Donnelly â Heddlu'r Gogledd yn 2003.
Ychwanegodd Mr Rees fod Donnelly wedi "gorfodi" i'r ferch ddod i'w wely, gan ei chusanu'n frwd, ei chofleidio a chyffwrdd ynddi. "Mae'r effaith arni hi wedi bod yn hirdymor," meddai.
Roedd y ddedfryd yn "sylweddol" fyrrach oherwydd yr effaith ar blentyn 11 oed Donnelly.
Fe fydd yn rhaid iddo arwyddo'r Gofrestr Troseddwyr Rhyw am 10 mlynedd.
Meddai Nicholas Walker, cyfreithiwr Donnelly, mae o "wedi gwneud cymaint i'r cyhoedd yng ngogledd Cymru... Fe fydd bod dan glo yn eithriadol o anodd oherwydd natur y drosedd."
Gwobrau
Mae Donnelly wedi ennill gwobrau am ei waith fel plismon, yn cynnwys Gwobr Gwasanaeth Cymunedol Ffederasiwn Heddlu'r Gogledd yn 2011.
Yn dilyn y ddedfryd, dywedodd y Dirprwy Brif Arolygydd, Sian Beck, y byddai'n "hoffi diolch i'r swyddogion fu'n ymchwilio, i Wasanaeth Erlyn y Goron a'n fwy na dim i'r ferch oedd gyda'r dewrder a'r cryfder i ddod yn ei blaen.
"Mae'r achos hwn yn dangos waeth pryd mae troseddau fel hyn yn digwydd, fe wnawn ni'n gorau i'r hymchwilio'n fanwl, a chefnogi'r rhai sydd wedi dioddef a'r tystion gydol y broses er mwyn sicrhau cyfiawnder."
Meddai'r Prif Arolygydd, Dave Roome, o Adran Safonau Proffesiynol Heddlu'r Gogledd: "Yn dilyn y canlyniad yn y llys fe fydd Heddlu'r Gogledd yn archwilio unrhyw ddeunydd ychwanegol a chyflawni ymchwiliad mewnol mor fuan â phosib. Mae'r swyddog yn parhau i fod wedi'i wahardd o'i waith."