Dirwy o £400 am dynnu "selfie" tu fewn i Llys y Goron

  • Cyhoeddwyd
Daniel Lee ThomasFfynhonnell y llun, Dee News
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Daniel Lee Thomas ddirwy o £400 am dynnu llun "selfie" yn Llys Y Goron Yr Wyddgrug

Mae dyn o Gei Connah wedi derbyn dirwy o £400 am dynnu llun "selfie" mewn llys barn.

Ar ddiwedd mis Ionawr, fe dynnodd Daniel Lee Thomas, o Ffordd Yr Wyddgrug, Cei Connah, lun o'i hun yn oriel gyhoeddus Llys y Goron, Yr Wyddgrug.

Roedd arfbais y llys a'r barnwr i'w gweld yn y cefndir.

Aeth Thomas, 28, sydd yn brentis saer coed, ymlaen i roi'r llun ar ei wefan Facebook.

Clywodd Llys Ynadon Sir Fflint bod Thomas - a ddisgrifiwyd fel "cymeriad lliwgar" - wedi penderfynu tynnu'r llun oherwydd mai dyma'r tro cyntaf iddo fod yn Llys Y Goron, pan nad oedd yn ddiffynnydd ei hun.

Camymddwyn yn wirion

Dywedodd ynadon ei fod wedi "camymddwyn yn wirion" oherwydd roedd digon o arwyddion yn yr adeilad yn dweud wrth bobl am beidio â thynnu lluniau.

Clywodd Thomas y gallai fod wedi cael dirwy o hyd at £2,000 am y drosedd.

Roedd y llun o'r Barnwr Peter Heywood o Abertawe tra roedd yn dyfarnu ar achosion yn Yr Wyddgrug ar Ionawr 31.

Cysylltodd swyddogion y llys gyda'r heddlu yn dilyn cwyn gan rywun arall yn y llys. Aeth plismyn i'w gartref gan fynd â'i ffôn symudol - lle'r oedd y llun yn cael ei gadw - oddi arno.

Heb weld arwyddion

Dywedodd Thomas nad oedd wedi gweld yr arwyddion ac nad oedd yn ymwybodol ei fod wedi torri'r gyfraith a dywedodd Gary Harvey oedd yn ei amddiffyn fod Thomas wedi cael braw pan gafodd ei arestio.

Meddai: "Rhoddodd y llun ar Facebook a doedd ganddo ddim syniad faint o drafferth yr oedd hyn yn mynd i'w achosi. "

Bu'n rhaid i Thomas talu costau o £105 yn ychwanegol ond gorchmynnodd yr ynadon i'r heddlu dychwelyd ei ffôn symudol iddo.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol