Rhestr fer Gwobrau Tir na n-Og 2014
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi'r rhestr fer ar gyfer Gwobrau Tir na n-Og 2014.
Sefydlwyd Gwobrau Tir na n-Og yn 1976 gyda'r bwriad o godi safon llyfrau i blant a phobl ifanc yng Nghymru ac i annog pobl i brynu a darllen llyfrau da.
Cyflwynir tair gwobr yn flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru i anrhydeddu gwaith awduron a darlunwyr llyfrau plant, a hynny mewn tri chategori, sef categori cynradd Cymraeg, categori uwchradd Cymraeg a llyfr Saesneg gorau'r flwyddyn.
Dyma'r teitlau a ddewiswyd gan y panel gwobrwyo:
Categori Cynradd Cymraeg
•Ar Fferm Sgubor Wen - Caryl Lewis (Gwasg Gwynedd)
•Dafydd a Dad - Manon Steffan Ros a Jac Jones (Y Lolfa)
•Cwmwl dros y Cwm - Gareth F. Williams (Gwasg Carreg Gwalch)
Categori Uwchradd Cymraeg
•Haciwr (Cyfres Pen Dafad) - Hywel Griffiths (Y Lolfa)
•Diffodd y Sêr (Cyfres yr Onnen) - Haf Llewelyn (Y Lolfa)
•Pedwar (Cyfres Mellt) - Lleucu Roberts (Y Lolfa)
Dywedodd Eirian Pritchard, Cadeirydd Panel Dewis y Gwobrau Cymraeg: "Roedd toreth o nofelau ar gyfer yr oedran uwchradd, yn amrywio o'r hanesyddol i storïau antur, o'r ffug-wyddonol i'r chwedlonol, a chafwyd llyfrau'n ymdrin â themâu megis problemau teuluol ac emosiynol yr arddegau.
"Bu ymgais glodwiw i greu nofelau gafaelgar am brofiadau cyfoes megis bwlio, canlyniadau mabwysiadu ar unigolion, effaith alcoholiaeth ar deulu, am y cwlwm rhwng cenedlaethau, a chyfrolau'n ail-fyw digwyddiadau hanesyddol."
Wrth drafod y categori cynradd, ychwanegodd, "Roedd yna amrywiaeth eang o storïau, nofelau a chyfrolau barddoniaeth, yn ogystal ag un gyfres ffeithiol safonol, sef cyfres 'A Wyddoch Chi Am … '.
"Cafwyd cyfrolau newydd sy'n ychwanegiadau at gyfresi poblogaidd megis cyfres Swigod, cyfres Cyffro, ac Alun yr Arth, llyfr o weithgareddau'n ymwneud â Rwdlan, yn ogystal â chyfrolau o storïau a chwedlau fydd yn adnoddau defnyddiol i ddisgyblion ac athrawon bori ynddynt a'u darllen.
"Mae'r llyfrau o farddoniaeth atyniadol a difyr i'r oedran hwn yn adnodd dosbarth gwerthfawr, yn ogystal â bod yn bleser pur i'r darllenwyr.'
Ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Llyfr Saesneg Gorau'r Flwyddyn mae:
Llyfr Saesneg Gorau'r Flwyddyn
•The Seven - Steve Gladwin (Pont)
•The Wild West Show - Phil Carradice (Pont)
•Welsh Cakes and Custard - Wendy White (Pont)
Yn ôl Elwyn Jones, Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau: 'Mae'n braf iawn medru llongyfarch yr awduron, y darlunwyr a'r cyhoeddwyr ar safon ac amrywiaeth y llyfrau sydd wedi'u cyhoeddi ar gyfer plant a phobl ifanc yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac roeddem yn hynod falch o gael ystod mor deilwng ar y rhestr fer.
"Gobeithiwn y bydd y llyfrau yma yn dod â phleser mawr i ddarllenwyr ifanc ar draws Cymru gyfan."
Bydd enwau enillwyr y gwobrau Cymraeg yn cael eu cyhoeddi yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Meirionnydd, ddydd Iau, 29 Mai 2014
Bydd enw enillydd y wobr Saesneg yn cael ei gyhoeddi mewn digwyddiad arbennig yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd yn ystod cynhadledd CILIP Cymru, ddydd Iau, 15 Mai 2014.