Llofruddiaeth dyn ger afon Taf
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu De Cymru wedi dechrau ymchwiliad i lofruddiaeth dyn 45 oed yn ardal Grangetown o Gaerdydd.
Fe gafodd yr heddlu alwad anhysbys ychydig cyn canol nos nos Fercher, Mawrth 19, o giosg ffôn ar Heol Clare, Grangetown.
Fe ddaeth swyddogion o hyd i gorff y dyn, yn rhannol yn y dŵr, ar lan yr afon Taf, o dan bont Heol Penarth.
Mae ei farwolaeth yn cael ei drin fel un o lofruddiaeth ac fe fydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal i ddarganfod sut yn union y bu farw.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd, Paul Hurley o dîm Ymchwiliadau Troseddau Arbenigol Heddlu'r De: "Mae swyddogion yn torri'r newyddion garw i rieni'r gwr fu farw ac fe fyddan nhw'n cael ein cefnogaeth lawn.
"Rydym yn hynod ddiolchgar i'r rheiny sydd wedi cysylltu â ni'n barod gyda gwybodaeth, yn arbennig y dyn ddaru gyflwyno'i hun yn gynharach heddiw fel y person a wnaeth yr alwad ffôn 999 wreiddiol o'r ciosg ar Heol Clare.
"Rydym yn apelio am dystion ac rwy'n gofyn i unrhyw un a oedd yn ardal y Taff Embankment rhwng 6yh ar nos Fercher a 12.30yb heddiw i gysylltu â Heddlu De Cymru."
Mae nhw hefyd yn awyddus i glywed oddi wrth unrhyw un a welodd y dyn hwn yn ystod yr oriau yn arwain at ddod o hyd i'w gorff.
Mae'n cael ei ddisgrifio fel dyn gwyn, yn gwisgo jîns glas golau, siaced law ysgafn, lliw nefi, a chap pêl-fasged, lliw golau gyda'r geiriau 'cross hatch' arno.
Mae'n bosib ei fod hefyd yn cario bag du.
Mae ystafell arbennig wedi'i sefydlu yng ngorsaf ganolog yr heddlu yng Nghaerdydd ac mae'r ardal dan sylw wedi cael ei gau tra bod ymchwiliadau'r heddlu'n mynd yn eu blaen.
Gall unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu drwy ffonio 02920 571 530, 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111 gan roi'r cyfeirnod 1400093541.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2014