Tân Penrhyndeudraeth: Dynes wedi marw

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes wedi marw ar ôl tân mewn fflat ym Mhenrhyndeudraeth.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i Stryd y Castell yn hwyr nos Iau.

Fe gafodd criwiau o Borthmadog, Blaenau Ffestiniog, Pwllheli ac Harlech eu galw i ddelio' gyda'r tân, ychydig cyn 10.30pm.

Fe gafodd dynes yn ei hwythdegau driniaeth gan barafeddygon ger y safle, ond bu farw yn ddiweddarach. Fe lwyddodd dyn yn ei wythdegau i adael yr adeilad.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd yn ymchwilio i'r achos - ar y cyd â'r heddlu.

Bu ffordd yr A487 ynghau am gyfnod, ond mae bellach wedi ail-agor.