Rhodd i Oriel Môn Llangefni, ac arddangosfa newydd
- Cyhoeddwyd

Bydd gwaith rhai o artistiaid mwyaf dawnus Ynys Môn yn cael eu dangos mewn arddangosfa newydd yn Oriel Ynys Môn, Llangefni.
Mae'r Oriel wedi derbyn casgliad newydd o fwy na 30 o baentiadau o waith Harry Hughes Williams, arlunydd talentog oedd yn portreadu tirwedd gogledd Cymru.
Rhodd gan deulu'r artist yw'r casgliad, a bydd llawer o'r paentiadau'n cael eu harddangos tan 7 Medi, 2014, fel rhan o'r arddangosfa 'Dathlu Celf Ynys Môn'.
Cafodd Harry Hughes Williams ei eni ym Mhentraeth yn 1892 ac fe'i magwyd yn Fferm Mwyn Mynydd, Llandrygarn. Yn 11 oed, torrodd ei glun ar ôl syrthio o adeilad, gan achosi anabledd parhaol.
Bu'n arddangos ei waith am y tro cyntaf yn yr Academi Frenhinol Gymreig yng Nghonwy yn 1918. Yn 1938 fe gymerodd swydd fel athro celf yn Ysgol Ramadeg Llangefni.
Bu farw yn 1953, yn 61 mlwydd oed, ar ôl syrthio o risiau ysgubor fferm.
Dywedodd Pat West o Gyngor Sir Ynys Môn: "Mae Oriel Ynys Môn yn ddiolchgar iawn i deulu Harry Hughes Williams am eu haelioni wrth roddi'r casgliad hyfryd hwn o'i waith er mwyn cyfoethogi casgliad Celf Ynys Môn ymhellach."
Bydd y gwaith yn cael ei arddangos yn yr arddangosfa newydd fydd yn cynnwys gwaith Syr Kyffin Williams, Charles Tunnicliffe ac Edith a Gwenddolen Massey. Bu'r chwiorydd yn gyfrifol am gofnodi delweddau o flodau a phlanhigion brodorol yr ynys.
Ychwanegodd Pat West: "Nod yr arddangosfa arbennig hon yw dangos y dalent artistig ryfeddol sy'n cael ei meithrin yma ar Ynys Môn ac i arddangos rhagor o'r casgliad celf hanesyddol unigryw hwn."