Gyrrwr bws yn yr ysbyty

  • Cyhoeddwyd
gwasanaeth tan
Disgrifiad o’r llun,
Fe gafodd gwasanaeth tân y canolbarth a'r gorllewin eu galw toc cyn 8 y bore.

Mae gyrrwr bws wedi cael ei gludo i'r ysbyty wedi i'w gerbyd daro pont reilffordd yn Abertawe.

Fe gafodd gwasanaeth tân y canolbarth a'r gorllewin eu galw toc cyn 8a y bore.

Roedd y bws wedi taro pont ar New Cut Road yn Abertawe.

Roedd yn rhaid i'r timau ddefnyddio offer arbenigol i dorri'r gyrrwr allan o'r bws.

Mae un criw y gwasanaeth tân yn dal yno yn delio gyda thanwydd ar y ffordd ac yn helpu gyda threfnu symud y bws.

Doedd neb arall wedi cael eu hanafu.