Person yn eistedd ar ganol yr M4
- Cyhoeddwyd
Mae adroddiadau bod rhywun yn eistedd ar lain ganol yr M4.
Mae'r BBC wedi cael ar ddeall bod mwy nag un person o bosib ar yr M4 rhwng cyffordd 47, Penllergaer/Abertawe a chyffordd 48, Hendy/Llanelli.
Mae'r arwyddion cyflymder wedi cael eu gostwng i 40 milltir yr awr.
Does dim mwy o wybodaeth ar hyn o bryd.