£1 miliwn o ddifrod i goed

  • Cyhoeddwyd
Coeden
Disgrifiad o’r llun,
Roedd y goeden yma ym Mhentywyn ymysg dioddefwyr y stormydd

Cafodd gwerth £1 miliwn o ddifrod i'w wneud i goedwigoedd yn dilyn y stormydd ym mis Ionawr a Chwefror eleni, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, CNC.

Y gogledd a'r canolbarth welodd y gwaethaf o'r tywydd garw - fe gafodd 450 o goedydd derw aeddfed eu dinistrio yng Nghoed Bryn Mawr, ger Maentwrog.

Yng Nghoed y Brenin, mae'n rhaid symud 4,000 metr giwbig o goed er mwyn gallu ailagor hanner milltir o ffordd rhwng Hermon a Llanfachredd.

Cafodd 20,000 o goed eu chwythu lawr yng Nghoedwig Clocaenog, ger Rhuthun, gan achosi rhwystr mewn wyth lle a dymchwel llinellau trydan a ffôn.

Yn ôl CNC, roedd cyfanswm y difrod i'r gogledd a'r canolbarth yn rhyw £440,000

Er eu bod yn pwysleisio nad yw'r difrod mor ddrwg yn y de, mae disgwyl i'r gost o fynd i'r afael â thirlithriadau a phroblemau eraill gostio £390,000.

Disgrifiad o’r llun,
Daeth y gwyntoedd cryf â diwedd i fywyd y goeden hon, ddaeth i lawr rhwng Talacharn a Phentywyn

Mae'r rhan fwyaf o'r gwaith atgyweirio llinellau trydan a lonydd yn dilyn yr hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel "y storm waethaf ers 30 mlynedd" gan CNC.

Ond mae llawer o waith ar ôl i'w wneud ar glirio llwybrau troed, symud canghennau sy'n hongian a thrwsio cloddiau a ffensys ac ati.

Mae gwaith i'w wneud hefyd ar Lwybr Arfordir Cymru, gafodd ei ddifrodi mewn 60 o lefydd.

Dywedodd Kim Burnham o Gyfoeth Naturiol Cymru: "Mae'r amgylchedd naturiol yn bwysig i ymwelwyr ac i drigolion fel ei gilydd ac mae cyfraniad hamdden yr awyr agored i economi Cymru, ac i ffordd o fwy iach, yn un arwyddocaol.

"Dyna pam ein bod ni'n gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau y bydd y gwaith clirio wedi'i gwblhau cyn gynted ag y bo modd.

"Yn y tymor hir, pan fydd y coetiroedd yn adfer o ddifrod y stormydd bydd yna ragor o goed amrywiol iach yn tyfu a fydd yn eu gwneud yn lleoedd gwell i bobl ac i fywyd gwyllt".