Cefnogwyr Caerdydd yn protestio dros ail-frandio eu clwb
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth rhyw 3,000 o gefnogwyr brotestio yn erbyn ail-frandio Clwb Pêl-droed Caerdydd gan y perchennog Vincent Tan ddydd Sadwrn.
Cyn gêm yr Adar Gleision yn erbyn Lerpwl yn Stadiwm y Ddinas, fe gerddodd y cefnogwyr o Canton i Stadiwm Dinas Caerdydd, gan weiddi sloganau.
Doedd dim i awgrymu bod unrhyw drafferth wedi bod.
Mae Caerdydd yn dweud eu bod nhw wedi gwahodd trefnwyr y brotest i siarad gyda chadeirydd y clwb.
Arian gyda amodau
Roedd amodau ynghlwm wrth gynnig Mr Tan o fuddsoddiad mawr - arian fyddai'n talu am chwaraewyr newydd, cae ymarfer newydd a chynyddu maint Stadiwm y Ddinas.
Un o'r rhain oedd newid lliw y crys o goch i las. Fe wnaeth orfodi'r clwb hefyd i fabwysiadu draig fel symbol, ar draul yr adar gleision.
Y prif reswm oedd bod y lliw coch yn cael ei weld fel lliw gwell i'w farchnata yn Asia, lle mae'n cael ei weld fel lliw lwcus.
Roedd y penderfyniad i newid y clwb - ddechreuodd fel Riverside FC yn 1899 - wedi hollti barn cefnogwyr, gyda rhai yn teimlo nad oedd digon o ystyriaeth am hanes y clwb.
'Parchu'r traddodiad'
Cafodd y brotest ddydd Sadwrn ei chefnogi gan glybiau cefnogwyr er mwyn dangos nad ydyn nhw'n cefnogi'r ail-frandio, a'u bod am symud yn ôl i liwiau traddodiadol.
Hon oedd y brotest gyntaf i gynnwys aelodau o bob un brif grwpiau cefnogwyr y clwb, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Dinas Caerdydd, Cefnogwyr Dinas Clwb Caerdydd, Fforwm Dinas Caerdydd, Dinas Caerdydd Ar-lein a Bluebirds Unedig.
Dywedodd cadeirydd yr ymddiriedolaeth Tim Hartley wrth BBC Cymru: "Y bwriad yw i ddangos i'r clwb ein bod ni o blaid newid y lliwiau chwarae yn ôl i las.
"Dyna'r unig reswm ry'n ni yma ... er mwyn rhoi neges glir i Mr Tan ac i'r clwb ein bod ni ddim yn cefnogi'r ail-frandio.
"Ein bod ni'n parchu'r traddodiad sy'n mynd ymlaen ers can mlynedd."
Pan ofynnodd Iwan Griffiths o Newyddion 9 iddo os oedd o'n credu y byddai Caerdydd yn gwrando ar y cefnogwyr, ymateb Mr Hartley oedd: "Dyfal donc a dyr y garreg."
Datganiad y clwb
Mewn datganiad, dywedodd Caerdydd; "Hoffai Glwb Pêl-droed Caerdydd ddiolch i'r trefnwyr, gan gynnwys Clwb y Cefnogwyr ac Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Caerdydd am weithio yn galed i sicrhau y bydd yr orymdaith i gerflun Fred Keenor brynhawn Sadwrn yn ddigwyddiad heddychlon, dymunol ac i amserlen clir.
"Yn dilyn yr orymdaith, mae'r trefnwyr wedi cael cynnig i gwrdd â'r Cadeirydd cyn y gêm, tra bod staff y stadiwm yn helpu i sicrhau mynediad diogel ac effeithlon i gefnogwyr cyn gêm bwysig yn yr Uwch Gynghrair."
Dywedodd y clwb bod angen canolbwyntio ar fod yn bositif ar gyfnod pwysig yn y tymor, gan ychwanegu: "Mae pawb yn y clwb wedi ymrwymo i weithio gyda chefnogwyr i sicrhau bod y tîm yn cael y gefnogaeth orau posib, gartref ac oddi cartref, am weddill y tymor."
Straeon perthnasol
- 26 Rhagfyr 2013
- 6 Mehefin 2012
- 9 Mai 2012