Heddlu wedi cipio £1.9m o gyffuriau yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Cafodd cyffuriau gyda gwerth £1.9m eu dal gan heddlu yng Nghymru dros y flwyddyn diwethaf.
Roedd swyddogion Ymgyrch Tarian wedi arestio 79 o bobl a chipio £992,000 gafodd ei wneud drwy droseddu.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae 78 o bobl wedi eu dedfrydu i gyfanswm o 209 o flynyddoedd dan glo am nifer o droseddau, y mwyafrif yn ymwneud â chyflenwi cyffuriau dosbarth A.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Rhiannon Kirk bod y tîm wedi cael cyfradd dedfrydu o 100% y llynedd.
Ymgyrch Tarian
Mae Ymgyrch Tarian yn dasglu rhanbarthol, gwasanaeth gwybodaeth a thîm o swyddogion cudd sy'n gweithio i daclo troseddau difrifol wedi eu cynllunio sy'n effeithio ar Gymru.
Mae swyddogion o Heddlu'r De, Heddlu Gwent a Heddlu Dyfed-Powys yn cydweithio gyda swyddogion o tu allan i Gymru a'r Asiantaeth Droseddau Genedlaethol (NCA).
Yn ôl y Ditectif Arolygydd Rhiannon Kirk, mae 70% o waith yr uned yn ymwneud â throseddau cyffuriau, ond hefyd cam-fanteisio'n rhywiol ar blant a rhwydweithiau masnachu pobl.
Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae'r ymgyrch wedi darganfod 31 o grwpiau troseddu, gan gipio cyffuriau ar sawl achos.
Roedd hynny'n cynnwys cyffuriau fel heroin, cocên, ecstati, amffetamin a chanabis gwerth £1.9m.
Cafodd dros £600,000 o arian ei gipio hefyd.
Dywedodd Ms Kirk: "Rydyn ni yn gweithio yn ddi-baid i ddilyn y rheiny sy'n rhan o droseddau difrifol gyda'r bwriad o aflonyddu eu gwaith a sicrhau cyfiawnder."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd28 Awst 2013