Gweilch 34 - 9 Gleision
- Cyhoeddwyd
Mae gobeithion y Gweilch o gyrraedd gemau'r ail-gyfle wedi cael hwb gyda buddugoliaeth dros y Gleision nos Wener.
Mewn glaw trwm yn Stadiwm Liberty yn Abertawe, llwyddodd asgellwr Fiji, Aisea Natoga i groesi'r llinell tri o weithiau i sicrhau'r seithfed fuddugoliaeth yn olynol i'r Gweilch dros y Gleision.
Roedd ceisiau hefyd i Ashley Beck a Rhys Webb, gyda Dan Biggar yn cicio naw o bwyntiau.
Doedd y Gleision methu a chystadlu ar yr un lefel a'u gwrthwynebwyr, a daeth eu hunig bwyntiau o droed Gareth Davies, wrth iddo drosi tair cic cosb.
Cafodd asgellwr y Gweilch, Harry Robinson, sy'n ymuno a'r Scarlets y tymor nesaf, ei gario o'r cae gydag anaf yn hwyr yn y gêm.
Mae'r fuddugoliaeth yn sicrhau lle'r Gweilch ym mhedwar uchaf y Pro12.
Gweilch 34 - 9 Gleision
Gweilch: Davies, Hassler, Spratt, Beck, Natoga, Biggar, Webb, D. Jones, Baldwin, Jarvis, R. Jones, A. Jones, Lewis, Tipuric, Baker.
Eilyddion: Otten, M. Thomas, A. Jones, King, Bearman, Allen, Habberfield, H. Dirksen.
Gleision Caerdydd: Fish, Cuthbert, Allen, Evans, Robinson, G. Davies, L. Williams, G. Jenkins, R. Williams, Filise, Dicomidis, Paulo, E. Jenkins, J. Navidi, Copeland.
Eilyddion: Dacey, Hobbs, Andrews, Reed, Cook, Jones, Humberstone, Tuifua.
Dyfarnwr: Nigel Owens (Cymru)
Straeon perthnasol
- 28 Chwefror 2014
- 3 Mawrth 2014
- 1 Mawrth 2014