Iawndal i ferch sy'n methu gwenu

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty'r Brifysgol
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Caitlin wedi cael llawdriniaeth i dynnu'r tyfiant yn Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd.

Mae merch wedi derbyn iawndal gwerth £100,000 wedi i driniaeth i dynnu tyfiant ar ei gwddf olygu nad yw hi'n gallu gwenu.

Roedd Caitlin Gaylard wedi datblygu tiwmor diniwed oedd wedi tyfu i faint dwrn o fewn wythnosau o'i genedigaeth ym mis Tachwedd 2002.

Roedd hi'n byw yn Magwyr ger Casgwent pan y cafodd lawdriniaeth i dynnu'r tyfiant yn Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd.

Ond fe dorrodd llawfeddygon y nerfau gan achosi paralysis difrifol i'w hwyneb.

Roedd cyfreithwyr y teulu wedi gofyn i'r Uchel Lys ddydd Gwener i gymeradwyo'r taliad oedd yn cael ei gynnig gan Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro.

Fe fydd rhan o'r arian yn talu am lawdriniaeth bellach i Caitlin, un ai yma yn y DU neu yn yr Unol Daleithiau yn hwyrach yn y flwyddyn.

Mae Caitlin erbyn hyn yn 12 oed ac yn byw yn Houston, Texas, wedi i'w thad gael ei anfon i'r UDA am ddwy flynedd gyda chwmni cyfrifiadurol IBM.

Yn ystod y gwrandawiad yn Llundain, clywodd y llys bod Caitlin wedi gorfod dioddef cyfres o driniaethau poenus dros y blynyddoedd, mewn ymgais aflwyddiannus i wella'r difrod i'r nerfau.

Roedd wedi golygu bod y ferch ysgol yn fewnblyg ac roedd wedi effeithio ei hunan hyder.

'Llawn edmygedd'

Mae'i rhieni, Kim ac Ian Gaylard, yn dweud bod y cyfan wedi bod yn dorcalonnus.

"Dwi'n llawn edmygedd o fy merch, a faint mae wedi'i orchfygu yn ei bywyd byr," dywedodd Mrs Gaylard.

"Mae wir wedi stryglo drwy'r blynyddoedd i ddod i delerau gyda pharlys i'w hwyneb.

"Mae modd i barlys yr wyneb fod yn ynysig iawn ac er bod ffrindiau yn cydymdeimlo, fedran nhw ddim deall go iawn dyfnder yr emosiwn neu'r effaith mae'n ei gael ar eich bywyd.

"Dwi'n meddwl am y pwysigrwydd mae pobl yn ei roi ar wên, am ei llun graddio, ei llun priodas, a'r holl argraffiadau cyntaf fydd yn rhaid iddi ei hwynebu yn ei dyfodol ac mae'n torri fy nghalon drosodd a throsodd."

Dywedodd mam y ferch bod y teulu wedi wynebu sawl sialens.

"Caitlin yw'r person dewraf a mwyaf clen rwy'n 'nabod a gobeithio y bydd y llawdriniaeth nesaf yn gweithio, ond os na fydd, dwi'n gwybod y bydd hi'n pigo'i hun i fyny eto ac fe fydda i yn dynn wrth ei hochr bob cam o'r ffordd."

Dywedodd bod Caitlin yn bwriadu helpu plant eraill drwy godi arian ar gyfer Facial Palsy UK.

Ni wnaeth bwrdd iechyd y Brifysgol wrthwynebu'r achos yn yr Uchel Lys gan dderbyn cyfrifoldeb a chytuno ar daliad gyda chyfreithwyr y teulu.

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: "Mae'n ddrwg iawn gan y bwrdd iechyd am yr hyn a ddigwyddodd ac fe hoffem gynnig ein hymddiheuriadau diffuant i Caitlin a'i theulu.

"Mae'r bwrdd wedi derbyn cyfrifoldeb yn yr achos hwn yn fuan wedi derbyn y cais, ac rydym yn falch bod y broses gyfreithiol nawr ar ben.

"Rydym yn gwerthfawrogi na fydd taliad fydd yn dadwneud y niwed sydd wedi ei achosi ond rydym yn gobeithio y bydd yn helpu Caitlin a'i theulu mewn rhyw ffordd fach."