
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Ann Clwyd: Amheuon am ddatganoli
21 Mawrth 2014 Diweddarwyd 22:11 GMT
Wrth i'r dadlau ynglŷn â'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru barhau, parhau i ymosod ar Lywodraeth Bae Caerdydd wnaeth Aelod Seneddol Cwm Cynon, Ann Clwyd.
Mae hi'n feirniadol am i'r llywodraeth beidio â chynnal ymchwiliad trylwyr i safonau ysbytai, gan wrthod hefyd y galwadau i gyhoeddi manylion llawn yr ymchwiliad i'r gofal y derbyniodd ei diweddar ŵr.
Bu'n siarad â'n Golygydd Materion Cymreig, Vaughan Roderick.