BBC Cymru Fyw

Merch o Gas-gwent ar goll

Published
image captionMae Keisha wedi bod ar goll ers naw diwrnod
Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth wrth iddyn nhw geisio dod o hyd i ferch 16 oed o Gas-gwent sydd wedi bod ar goll ers dros wythnos.
Dyw Keisha Morris heb fod gartref ers Mawrth 13 - mae heddlu'n amau y gallai hi fod yn ardal Bryste.
Mae Keisha yn bum troedfedd, pum modfedd ac yn denau gyda llygaid brown.
Roedd hi'n gwisgo jîns a sgidiau glas, a thop piws gyda hwd y tro diwethaf iddi gael ei gweld gan ei gwarchodwyr.
Mae'r heddlu yn awyddus i unrhyw un sydd â gwybodaeth am leoliad Keisha i'w ffonio ar 101.