Torquay 0 - 1 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Newport County's Chris Zebroski scoresFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Chris Zebroski yn sgorio i Gasnewydd

Daeth rhediad gwael Casnewydd i ben gyda buddugoliaeth i ddynion Justin Edinburgh yn Torquay.

Daeth unig gôl y gêm ar ôl wyth munud, wrth i Zebroski daro ergyd gywir o ongl anodd i ddarganfod cefn y rhwyd.

Cafodd Shamir Goodwin gerdyn coch ar ôl hanner awr am ddefnyddio'i benelin yn erbyn capten Casnewydd, Michael Flynn.

Fe wnaeth gôl-geidwad yr ymwelwyr, Ian McLoughlin, yn dda i wneud arbedion pwysig tua diwedd y gêm gan sicrhau'r triphwynt iddynt.

Dywedodd Justin Edinburgh ar ôl y gêm: "Roedd y fuddugoliaeth yna yn un roedden ni ei hangen, a doedden ni'n amlwg heb guddio'r ffaith ein bod wedi bod yn chwarae mor sâl oddi cartref.

"Rwy'n credu y dylen ni fod wedi ennill y gêm yn hawdd yn y diwedd. O ystyried y rhediad roedden ni wedi bod arno, mi wnaethon ni'n dda i reoli'r gêm.

"Rwy'n bles gyda safon cyffredinol y chwarae. Fe newidion ni'r system ychydig a ro'n i'n meddwl bod Darcy Blake a Kevin Feely ill dau wedi chwarae'n dda yn eu gêm gyntaf dros y clwb."