Ffrae ynghylch cytundebau dim oriau

  • Cyhoeddwyd
Dim oriau
Disgrifiad o’r llun,
Mae gwrthwynebwyr cytundebau dim oriau'n dweud eu bod yn anheg

Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo Llafur o ragrith, am bleidleisio yn erbyn cynnig i wrthwynebu cytundeb dim oriau tra'n dweud yn gyhoeddus eu bod eisiau eu diddymu.

Roedd Plaid Cymru wedi cyflwyno gwelliant i'r Mesur Gwasanaethau Cymdeithasol fyddai wedi gorfodi awdurdodau lleol i wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau nad oedd cytundebau o'r fath yn cael eu defnyddio ym maes gofal.

Yn ôl Jocelyn Davies, mae hyn yn enghraifft o Lafur yn dweud un peth yn Llundain, a gwneud rhywbeth arall ym Mae Caerdydd.

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n rhannu'r pryderon ynglŷn â chytundebau dim oriau, ond nad oedd y mater wedi cael ei ystyried mewn digon o fanylder er mwyn ei gynnwys yn y mesur ar y funud olaf.

Gwelliant Plaid Cymru

Cafodd y Mesur Gwasanaethau Cymdeithasol ei gymeradwyo yn y Cynulliad ar Fawrth 18.

Ei nod yw symleiddio rheolau mewn perthynas â maes gofal, a cheisio sicrhau bod cynghorau yn asesu ac anghenion yn parchu hawliau gofalwyr.

Roedd y gwelliant, gafodd ei gyflwyno gan Ms Davies, yn dweud: "Rhaid i awdurdod lleol sy'n gwneud darpariaethau neu drefniadau o'r math yma ... sicrhau nad yw darpariaeth neu drefniadau o'r math, cyn belled ag y mae'n ymarferol, yn darparu ar gyfer gofal a chymorth drwy ddefnyddio contractau dim oriau."

Fe bleidleisiodd Plaid Cymru a'r Democratiaid Cymru o blaid y gwelliant, gyda Llafur a'r Ceidwadwyr yn pleidleisio yn ei erbyn.

'Rhagrith noeth'

Yn dilyn hyn, dywedodd Jocelyn Davies: "Mae'r blaid Lafur yn Llundain yn honni eu bod yn erbyn contractau dim oriau ac y byddant yn eu gwahardd petaent yn cael cyfle. Ond yr wythnos hon, gwelsom nad yw hyn yn wir o gwbl.

"Mae gwleidyddion Llafur wedi ymuno â'r blaid Geidwadol i bleidleisio yn erbyn gwelliannau Plaid Cymru.

"Yr oedd gan Lywodraeth Cymru y pŵer i newid arferion comisiynu er mwyn rhoi terfyn ar ddefnyddio contractau dim oriau felly y mae'n rhwystredig iawn fod y llywodraeth wedi penderfynu peidio gwneud hynny.

"Rhagrith noeth yw hyn ar ran Llafur. Beth ddigwyddodd i 'Lafur Un Genedl' lle byddai hawliau sylfaenol i weithwyr yn gyffredinol i bawb? Yn amlwg, mae Llafur yn dweud un peth ar un pen i'r M4 ac yn gwneud rhywbeth arall y pen arall."

Angen mwy o ymchwil

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau datganiad yn esbonio pam nad oedden nhw yn fodlon pledleisio o blaid y gwelliant.

Mae'n dweud: "Er ein bod ni'n rhannu pryderon y rheiny sy'n ofni y gallai cytundebau dim oriau gael eu cam-ddefnyddio gan rai cyflogwyr, dydyn ni ddim yn teimlo bod y mater hwn wedi cael ei ymchwilio ddigon i'w gynnwys yn y mesur ar y funud olaf.

"Doedd y defnydd o gytundebau dim oriau ddim yn rhywbeth gafodd ei godi yn ystod y broses o ymgynghori ac, o ganlyniad, dyw'r bobl sy'n ymwneud â chomisiynu a darparu gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru heb gael cyfle i gyfrannu at y ddadl.

"Felly hefyd y bobl sy'n cael eu heffeithio gan gytundebau o'r fath.

"Mae Llywodraeth y DU wedi gorffen ymgynghoriad yn ddiweddar ar [gytundebau] dim oriau ac mae disgwyl iddo adrodd yn ol yn fuan.

"Byddai'n synhwyrol i ystyried hyn wrth i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniad ynglŷn ag unrhyw weithredu."