Astudio'r cysylltiad rhwng genynnau, hormonnau â deallusrwydd
- Cyhoeddwyd

Yn dilyn ymchwil gan Brifysgol Caerdydd, mae'n bosib adnabod plant sydd mewn perygl o ddatblygu cyniferydd deallusrwydd, neu IQ, isel.
Mae ymchwilwyr yn dweud bod plant pedair gwaith yn fwy tebygol o fod â chyniferydd deallusrwydd is na 85, os oes ganddynt lefelau hormon thyroid isel ac amrywiolyn o ennyn cyffredinol.
Er mwyn darganfod pa blant sydd mewn perygl o ddioddef hyn, mae'r ymchwilwyr yn meddwl y dylai babanod newydd-anedig cael eu profi am y newidiadau.
Profi
Dr Peter Taylor o Brifysgol Caerdydd oedd yn arwain yr astudiaeth, ac meddai: "Os yw astudiaethau eraill yn cadarnhau be rydym wedi ei ddarganfod, efallai y bydd yna fudd i brofi am y genyn hwn yn ogystal â'r sgrinio thyroid arferol sy'n digwydd i fabanod newydd-anedig er mwyn canfod y plant sydd fwyaf mewn perygl o ddatblygu IQ isel.
"Mae gan blant sydd â lefelau hormon boddhaol ynghŷd â'r newid genynnol, lefelau deallusrwydd arferol, sy'n peri'r posibilrwydd y gall plant sydd mewn perygl cael eu trin gyda thabledi hormonau thyroid er mwyn cywiro'r prosesu diffygiol yn y thyroid.
Bydd y canfyddiadau yn cael eu cyflwyno mewn cynhadledd o Gymdeithas Endocrinoleg yn Lerpwl ddydd Llun.
Profwyd 3,123 o blant gan ymchwilwyr Caerdydd oedd yn cyd-weithio gydag ymchwilwyr o Prifysgol Bryste ar y prosiect.
Astudio'r ymennydd
Mae hormonnau thyroid yn hanfodol i ddatblygiad yr ymennydd yn ystod plentyndod ac, yn ddiweddar, mae gwyddonwyr wedi bod yn astudio ensym penodol o'r enw deiodonase-2, sydd yn helpu prosesu'r hormonnau y tu fewn i gelloedd yn y corff.
Eisoes, mae amrywiad o'r genyn hwn wedi ei gysylltu â phwysau gwaed uchel a chlefyd siwgr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2014