Disgwyl i achos llys y Gleision bara tan fis Mehefin
- Cyhoeddwyd

Mae Malcolm Fyfield yn gwadu dynladdiad
Mae'r broses o ddewis rheithgor yn achos marwolaeth pedwar glöwr ym mhwll glo'r Gleision yn Nyffryn Tawe wedi dechrau.
Dywedodd y barnwr, Mr Ustus Wyn Williams ei fod yn disgwyl i'r achos barhau tan o leiaf diwedd mis Mehefin.
Roedd Malcolm Fyfield, 58, yn rheoli Glofa'r Gleision yng Nghilybebyll pan lenwodd y pwll gyda dŵr ym mis Medi 2011.
Bu farw Philip Hill, 44, Charles Breslin, 62, David Powell, 50, a Garry Jenkins, 39, ar ôl cael eu cau yn y pwll.
Mae Mr Fyfield yn gwadu dynladdiad, tra bod perchennog y pwll, MNS Mining, hefyd yn gwadu dynladdiad corfforaethol.