Bom cyntaf Gwynt y Môr wedi ei danio yn ddiogel
- Cyhoeddwyd
Mae bom, y cyntaf o dri a ddarganfuwyd ar wely'r môr o fewn safle adeiladu tyrbinau gwynt, wedi ei ffrwydro'n ddiogel.
Bydd y bomiau eraill o safle Gwynt y Môr ym Mae Lerpwl yn cael eu ffrwydro'n ddiogel o fewn dyddiau.
Ers i'r bomiau o gyfnod yr Ail Ryfel Byd ddod i'r amlwg ym mis Ionawr, mae RWE Innogy, sy'n adeiladu Gwynt Y Môr, wedi bod yn cydweithio gyda Ramora UK, arbenigwr ar ddifa bomiau.
Yn ôl yr arbenigwr, roedd rhaid ychwanegu ffrwydryn a chafodd y bom ei danio wyth milltir oddi ar arfordir y gogledd.
Roedd rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru drefnu trwydded forol ac un i Ddiogelu Rhywogaethau Ewropeaidd.
Cyn i'r bom gael ei danio roedd ardal ddiogelwch o 1000m yn ei lle.
Mwy cyffredin
Dywedodd Toby Edmonds, Cyfarwyddwr Prosiect Gwynt y Môr, RWE Innogy: "Rydym wedi delio gyda'r bom cyntaf ...
"Fel y disgwyliwyd, doedd ei ffrwydro ddim yn cael llawer o effaith ar wyneb y môr ac mi fydd y ddau arall yn cael eu trin yn debyg yn y dyddiau nesaf.
"Rydym wedi ail-gydio yn y gwaith adeiladu ..."
Yn ôl Cyfarwyddwr Ramora UK, David Welch, roedd darganfod hen fomiau ar waelod y môr yn fwy cyffredin oherwydd nifer y tyrbinau gwynt sy'n cael eu hadeiladu ar y môr.
Straeon perthnasol
- 26 Chwefror 2014