Ryan Jones yn mynd i Fryste

ryan jones

Fe fydd cyn-gapten Cymru, Ryan Jones, yn gadael y Gweilch ac yn croesi Pont Hafren i Fryste ddiwedd y tymor Pro12.

Mae Jones - sydd wedi ennill 75 o gapiau dros ei wlad, ac ennill y Gamp Lawn deirgwaith - wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd o hyd.

Ers 2004, mae'r wythwyr 33 oed, sydd hefyd yn gyfforddus fel blaenasgellwr ac yn yr ail reng, wedi chwarae 147 gêm dros y Gweilch.

Meddai Cyfarwyddwr Rygbi Bryste, Andy Robinson: "Mae arwyddo Ryan yn dangos uchelgais Bryste a safon y chwaraewyr y gallwn ni eu denu.

'Ddim ar chwarae bach'

"Ddim ar chwarae bach mae torri record am fod yn gapten ar dy wlad a chwarae i'r Llewod - ma' beth mae Ryan wedi ei gyflawni yn ei yrfa hyd yma yn go arbennig.

"Fe fydd ei ddylanwad - ar y cae ac oddi arno - yn arwyddocaol i ni ... Mae Ryan yn awchu i weld Bryste yn symud 'mlaen a helpu'n datblygiad."

Meddai Ryan: "Dw i wrth fy modd 'mod i'n ymuno â Bryste. Dw i'n edrych 'mlaen i ddefnyddio 'mhrofiad i helpu'r tîm a chyfrannu at lwyddiant y clwb.

"Ma' gweledigaeth Bryste, y ffans brwdfrydig a'r cyfeiriad mae'r clwb yn mynd iddo yn ddeniadol iawn ...

"Dw i eisiau profi fy hun ar lefel ucha'r gêm yn Lloegr a dw i'n benderfynol o gyflawni hynny fel chwaraewr gyda Bryste."