E. Coli: methiant i reoli heintiau

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Singleton
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw dau fabi o E. Coli yn Ysbyty Singleton yn 2011

Mae'n debyg mai methiant i reoli heintiau oedd y rheswm y tu ôl i achosion E. Coli mewn ysbyty lle bu farw dau fabi o'r salwch, yn ôl adroddiad.

Roedd yr achosion yn Ysbyty Singleton yn Abertawe wedi effeithio ar fam, ei hefeilliaid ac un babi arall ym mis Tachwedd 2011.

Roedd gan y tri babi a mam yr efeilliaid yr un math o E. Coli.

Cafodd adran newydd-anedig yr ysbyty ei chau am tua mis oherwydd yr achosion.

Uned orlawn

Dywedodd adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru fod yr uned wedi bod yn orlawn cyn y digwyddiad, ac "yn gweithredu y tu hwnt i'r dyraniad cotiau dan gontract".

Roedd pob un o'r babanod wedi cael eu geni yn gynnar ar Hydref 31, ac roedd pob un angen gofal dwys adeg eu geni.

Wedi'r enedigaeth roedd mam yr efeilliaid wedi dangos arwyddion o haint E. Coli ac roedd un efaill hefyd yn dangos symptomau.

Fe wnaeth y babi ddatblygu problemau meddygol difrifol a bu farw ar Dachwedd 8.

Fe wnaeth y trydydd babi, oedd yn cael gofal yn y gwely'r drws nesaf, ddal yr haint a bu farw ar Dachwedd 4.

Dywedodd yr arolygiaeth fod hynny yn "ffactor pwysig" yn y digwyddiad.

Roedd yr efaill arall hefyd wedi dal yr haint ond llwyddodd i wella a chafodd adael yr ysbyty ar Dachwedd 17.

'Methu rheoli heintiau'

Ar y pryd roedd profion Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi dangos bod un o'r babanod wedi dal E. Coli yn yr uned ond bod y fam a'r ddau fabi arall wedi ei ddal yn rhywle arall.

"Er na ellir pennu union achos y digwyddiad trosglwyddo a'r achosion o ganlyniad i hynny, mae'n fwyaf tebygol mai methu ag atal na rheoli heintiau yn yr uned a'i achosodd," meddai'r adroddiad.

"Fodd bynnag, o ganlyniad i'r camau gweithredu a gymerwyd gan y staff yn yr uned, y tîm rheoli ac atal heintiau, y tîm rheoli achosion, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, cyfyngwyd yr achosion i'r un digwyddiad trosglwyddo."

Mae'r arolygiaeth wedi cyfeirio at 13 o argymhellion er mwyn gwella'r sefyllfa yn yr ysbyty.

Mae'r rhain yn cynnwys sicrhau bod mwy o lefydd i staff olchi eu dwylo, atgyfnerthu eu rhaglen hyfforddiant a rhoi mwy o le rhwng gwelyau i blant.

Dywedodd y bwrdd iechyd fod ailwampio'r adran newydd-anedig wedi cynnwys creu ystafell ar wahân i leihau'r risg o groes-heintiad.