Deepcut: Caniatáu cais am gwest arall

  • Cyhoeddwyd
Milwyr
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Sean Benton, Cheryl James, Geoff Gray a James Collinson ym marics Deepcut yn Surrey

Mae Twrnai Cyffredinol y DU, Dominic Grieve QC AS, wedi rhoi sêl bendith i gais am gwest newydd i farwolaeth Cheryl James a fu farw ym marics Deepcut yn 1995.

Bydd mudiad Liberty, yn gweithredu ar ran teulu Ms James, nawr yn gwneud cais i'r Uchel Lys am y cwest newydd.

Cafodd marwolaethau Ms James a thri milwr arall yn y barics eu trin fel achosion o hunanladdiad gan y fyddin a fu'n ymchwilio i'r mater, ac yn y cwest gwreiddiol fe gofnodwyd rheithfarn agored.

'Er lles cyfiawnder'

Mewn datganiad ar ran y twrnai cyffredinol, dywedodd llefarydd:

"Mae'r Twrnai Cyffredinol Dominic Grieve QC AS wedi cytuno i ganiatáu i deulu Preifat Cheryl James wneud cais i'r Uchel Lys am gwest newydd i'w marwolaeth.

"Cafodd y cais ei wneud i'r Twrnai Cyffredinol ar y sail nad oedd y cwest gwreiddiol wedi ymholi'n ddigonol i amgylchiadau ei marwolaeth, ac am fod tystiolaeth newydd bellach ar gael na chafodd ei chyflwyno i'r cwest yn Rhagfyr 1995.

"Mae'r Twrnai Cyffredinol wedi rhoi caniatâd am ei fod o'r farn ei fod er lles cyfiawnder i gais am gwest newydd gael ei wneud a'i glywed gan yr Uchel Lys."

Yn gyfreithiol does gan y Twrnai Cyffredinol ddim hawl i orchymyn cwest newydd.

Dim ond yr Uchel Lys all wneud hynny ar gais y Twrnai Cyffredinol neu gyda'i gydsyniad.

Mewn ymateb i'r datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn:

"Rydym yn parhau i gydymdeimlo â theulu a ffrindiau'r Preifat Cheryl James. Mae'r penderfyniad hwn yn fater i'r Twrnai Cyffredinol a'r Llysoedd. Os bydd cwest newydd yn cael ei orchymyn, byddwn wrth gwrs yn rhoi cefnogaeth i'r Crwner pan fydd angen."

'Anwybyddu tystiolaeth'

Yn ôl mudiad Liberty, a fydd yn gweithredu ar ran rhieni Cheryl James, Des a Doreen James:

"Pan gafwyd hyd i Cheryl yn farw, fe wnaeth Heddlu Surrey drosglwyddo'r mater i'r fyddin. Cafodd ei marwolaeth ei thrin yn syth fel hunanladdiad er gwaetha' disgrifiadau blaenorol ohoni fel merch 'hapus' a 'byrlymog'.

"Fe barodd y cwest gwreiddiol am awr yn unig - ni chafodd nifer o dystion allweddol eu galw, ni fu ymchwiliad manwl o gofnodion meddygol ac fe gafodd tystiolaeth bwysig ei anwybyddu."

Ychwanegodd cyfreithiwr Liberty, Emma Norton, sy'n cynrychioli teulu Cheryl James:

"Mae penderfyniad y Twrnai Cyffredinol yn rhoi cyfle hir-ddisgwyliedig i deulu Cheryl ganfod y gwir.

"Hyd yma mae eu brwydr i gael atebion wedi cael ei gwrthod gan wladwriaeth sy'n ystyried hawliau dynol ein milwyr fel ychwanegiad dewisol.

"Roedd y ferch ifanc yma yn paratoi am yrfa yn y gwasanaethau - y peth lleiaf y mae ei theulu yn ei haeddu yw cyfiawnder."

'Hawl sylfaenol'

Ychwanegodd rhieni Cheryl, Des a Doreen James:

"Rydym wrth ein bodd gyda chyhoeddiad y Twrnai Cyffredinol ac mae'n rhyddhad.

"Bu'n ddiwrnod emosiynol go iawn - mae'r broses wedi bod yn hir a phoenus gyda chymaint o rwystrau, ond ni wnaethon ni erioed ystyried rhoi'r ffidil yn y to.

"Roedd bywyd Cheryl o'i blaen; pan mae ein pobl ifanc yn colli'u bywydau yn gwasanaethu'u gwlad, nid yn unig y maen nhw'n haeddu ymchwiliad llawn ac annibynnol i'w marwolaeth, fe ddylai hynny fod yn hawl sylfaenol.

"Efallai y cawn ni nawr ymchwiliad iawn i'w marwolaeth, ac rydym yn gobeithio y bydd hyn yn dod â newid go iawn i recriwtiaid y dyfodol."

Cheryl James oedd yr ail filwr i farw yn Deepcut yn dilyn marwolaeth Sean Benton - bu farw'r ddau yn 1995.

Yn 2001/2002 bu farw dau arall - Geoff Gray a James Collinson - a bu farw'r pedwar ar ôl cael ei saethu.

Daeth yr ymchwiliad i'r casgliad nad oedd tystiolaeth bod rhywun arall wedi bod yn gysylltiedig â'u marwolaethau, ond ni chafodd y teuluoedd weld y deunydd a gafodd ei gasglu gan yr heddlu am y digwyddiad.

Bydd Liberty - sydd hefyd yn cynrychioli teulu Sean Benton - nawr yn cyflwyno'u cais am gwest newydd i'r Uchel Lys.