Galw am hyblygrwydd i barciau busnes
- Cyhoeddwyd

Mae un o gynghorwyr Powys wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fod yn fwy hyblyg wrth geisio denu busnesau i ddau barc busnes gwag yn y canolbarth.
Cafodd estyniad £1.9m i Barc Busnes Clawdd Offa ger Y Trallwng ac un tebyg ar safle £650,00 yn Aber-miwl eu lansio yn Hydref 2009.
Ond mae'r ddau leoliad yn dal yn wag dros bedair blynedd yn ddiweddarach.
Mae cynghorydd sir Aber-miwl, Wynne T. Jones, wedi dweud y dylai'r llywodraeth newid ei pholisi ar adeiladau.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn dal i farchnata'r safleoedd.
Cynyddu costau
Cafodd y parciau eu creu fel rhan o Gynllun Adfywio Dyffryn Hafren a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru ac arian o Ewrop.
Mae lle i 19 o unedau busnes ar safle Trewern ger Y Trallwng a saith ar safle Aber-miwl.
Dywedodd Mr Jones: "Cafodd y ddau barc eu sefydlu i ddenu busnesau oedd am gael safle pwrpasol fel y gellid codi adeiladau yn unol â'u gofynion.
"Ond fe wnaeth Llywodraeth Cymru benderfynu y byddai'n rhaid i bob adeilad ar y parciau ddilyn safonau amgylcheddol rhagorol BREEAM.
"Y broblem gyda hynny yw bod y costau adeiladu er mwyn cyrraedd y nod felly yn 40% yn uwch na chostau adeiladu arferol.
"O ganlyniad mae wedi bod yn anodd i fusnesau â diddordeb gael benthyciadau gan fanciau i dalu am adeiladau."
'Anymarferol'
Penderfynodd Mr Jones ysgrifennu at Weinidog Economi Cymru Edwina Hart i ofyn iddi farchnata'r parciau yn wahanol.
Ychwanegodd: "Rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn fwy hyblyg yn y cyfnod ariannol anodd yma.
"Mae'r polisi presennol yn golygu costau anymarferol i fusnesau sy'n gobeithio sefydlu yn y parciau yma."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r ddau barc busnes yn barod am adeiladau gan fod yr isadeiledd hanfodol yn ei le.
"Cafodd y gwaith hwn ei orffen ychydig cyn yr argyfwng bancio a'r dirwasgiad, ac nid yw'r farchnad eiddo masnachol wedi gwella eto.
"Mae safleoedd unigol yn dal i gael eu marchnata drwy Fas Data Eiddo Cymru."