Cabinet yn cadarnhau cau ysgol
- Cyhoeddwyd

Mae cabinet Cyngor Sir Ddinbych wedi penderfynu bwrw 'mlaen gyda'r bwriad i gau Ysgol Gynradd Llanbedr yn Rhuthun.
Yn gynharach eleni penderfynodd pwyllgor craffu'r cyngor i beidio cyfeirio'r mater dadleuol yn ôl at y cabinet.
Yn ystod ymgynghoriad ar gau'r ysgol fe gafwyd 85 o wrthwynebiadau gan staff, rhieni a gwleidyddion lleol, ynghyd â deiseb ag arni 1,210 o enwau yn galw ar y cyngor i ailystyried.
Bydd Ysgol Llanbedr yn cau ar Awst 31 eleni, gyda'r disgyblion presennol yn cael eu trosglwyddo i Ysgol Borthyn yn y dref.
Roedd nifer o geisiadau gan rieni i gofrestru'u plant i'r dosbarth derbyn ym mis Medi, 2014, er gwaetha'r bygythiad i gau.
Roedd gan Ysgol Llanbedr yr ail nifer uchaf o geisiadau i'r dosbarth derbyn ymhlith y 12 ysgol gynradd yn ardal Rhuthun.
Y teimlad ymysg nifer o gynghorwyr y sir oedd nad oedd yr ymgynghoriad wedi bod yn ddigon trylwyr a bod angen trafod y mater ymhellach cyn mynd ymlaen i gau'r ysgol.
Dydd Mawrth oedd y diwrnod olaf y gallai'r cabinet gadarnhau'r penderfyniad i gau'r ysgol ddiwedd mis Awst.
Straeon perthnasol
- 23 Ionawr 2014
- 21 Ionawr 2014
- 14 Ionawr 2014