Nigel Evans: honiad o dreisio yn ei 'synnu'

  • Cyhoeddwyd
Nigel EvansFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cyn ddirprwy lefarydd Tŷ'r Cyffredin, Nigel Evans, wedi dweud iddo gael rhyw gyda dyn 33 blynedd yn iau nag ef ond ei fod yn "synnu" at honiad o dreisio.

Yn Llys y Goron Preston dywedodd Mr Evans ei fod wedi cyffwrdd y dyn, oedd yn 22 ar y pryd, mewn ffordd rywiol. Ond mynnodd bod y dyn wedi caniatáu hynny.

Clywodd y llys honiad ei fod wedi treisio'r dyn ifanc wedi parti yn ei dŷ yn Pendleton, Sir Gaerhirfryn, yn 2013.

Mae Mr Evans, 56 oed, wedi gwadu un cyhuddiad o dreisio, dau o ymosod yn anweddus a chwech o ymosod yn rhywiol.

Atebion

Ddydd Mawrth clywodd y rheithgor atebion Mr Evans pan gafodd ei holi gan yr heddlu ym mis Mai'r llynedd.

Ar y pryd, dywedodd Mr Evans: "A wnes i ei gyffwrdd yn rhywiol? Yr ateb yw do.

"A oedd hynny heb ganiatâd? Yr ateb yw na."

Honnodd y diffynnydd fod yr achwynydd wedi ei ddilyn i'w lofft wedi'r parti.

Dywedodd fod y ddau wedi tynnu eu dillad eu hunain a chael rhyw.

Honnodd Mr Evans fod gan y dyn bob cyfle i beidio â gwneud hynny os nad oedd yn dymuno.

"Gallai fod wedi mynd i'w wely ei hun," meddai.

"Cyn belled â dwi'n deall roedd popeth wedi digwydd gyda chaniatâd.

"Mae'r honiadau sy'n cael eu gwneud nawr yn fy synnu."

Mae wedi ei gyhuddo o ymosod yn rhywiol ar saith o ddynion rhwng 2002 a 2013.

'Honiad difrifol'

Yn gynharach, clywodd y llys ddatganiad llefarydd y Tŷ Cyffredin, John Bercow.

Dywedodd fod AS Ceidwadol Dr Sarah Wollaston wedi cyfeirio at "honiad difrifol" yn erbyn Mr Evans, honiadau o ymosodiad rhywiol a threisio.

Dywedodd Dr Wollaston, meddyg oedd wedi gweithio fel archwilydd fforensig i'r heddlu, wrth Mr Bercow fod yr honiadau yn ymwneud â digwyddiad yn Sir Gaerhirfryn nid San Steffan.

Clywodd y llys fod Mr Bercow wedi cytuno i gwrdd â dioddefwr y trais honedig, ond ei fod wedi dweud bod y gwyn yn fater i'r heddlu.

Mae'r achos yn parhau.