Arsenal 2 - 2 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Arsenal v AbertaweFfynhonnell y llun, AP

Gêm gyfartal yn Stadiwm Emirates, diolch i gôl Arsenal i'w rhwyd eu hunain ym munud ola'r gêm.

Roedd dwy gôl gan Michu yn ddigon i guro'r Gunners yn Llundain y llynedd, ac roedd Arsenal yn benderfynol o daro'n ôl ac ennill y tro hwn, ond weithiodd y cynllun ddim fel roedden nhw wedi'i obeithio.

Fe ddaru gôl Mathieu Flamini i rwyd ei dîm ei hun olygu bod buddugoliaeth allan o'r cwestiwn i Arsenal, a'r Elyrch yn gadael gyda phwynt ychwanegol ar y tabl.

Roedd Arsenal yn llawn bwriad ar ddechrau'r gêm ac fe fyddai cyfle ffantastig Oxlade-Chamberlain wedi gallu'u rhoi ar y blaen.

Ond Abertawe sgoriodd gyntaf gyda gôl arbennig gan Wilfried Bony.

Roedd Neil Taylor wedi rhedeg i ochr Arsenal ac wedi croesi at Bony a beniodd y bêl i gornel chwith y rhwyd.

Roedd hi'n hanner cyntaf cyfforddus i'r Elyrch wrth i Arsenal fethu â sgorio yn y traean olaf a'u cefnogwyr yn troi'n rhwystredig iawn wrth weld diffyg cefnogaeth i Olivier Giroud.

Fe gafodd y tîm cartref gyfle wedi 20 munud ond fe gafodd siot Santi Cazorla o 14 llath ei arbed gan Michael Vorm.

Doedd Arsenal ddim yn dangos fawr o fwriad i ymosod yn yr ail hanner chwaith, wrth iddyn nhw fethu â mynd heibio amddiffyn Abertawe am sbel yn y gêm.

Ond fe ddaeth eu cyfle wedi 72 munud,- Lukas Podolski, gyda chymorth Kieran Gibbs, yn sgorio gyda siot o ganol y bocs i gornel chwith y rhwyd.

Doedd dim stop ar Arsenal wedyn gyda gôl arall o fewn munud yn llythrennol.

Olivier Giroud sgoriodd y tro hwn, gyda siot agos i ganol y gôl.

Ond doedd hi ddim ar ben i Abertawe, gyda Jonjo Shelvey yn llwyddo i agosau at ddod â'r sgôr yn gyfartal gyda siot ar draws wyneb y gôl.

Roedd hi'n drychineb i Arsenal o fewn munudau gydag Arsenal yn methu â rheoli'r bêl i'w harbed hi rhag mynd dros llinell gôl eu tîm.

Roedd 90 munud o'r gêm wedi mynd a Mathieu Flamini oedd yr olaf i gyffwrdd y bêl cyn iddi rolio i'w rhwyd eu hunain.

Dydy Arsenal heb golli gartref ers diwrnod cyntaf y tymor, ac mae'r gêm gyfartal yn golygu eu bod nhw rwan wedi colli 4 pwynt.

Yn ôl John Hartson: "Roedd Arsenal wedi cael trafferth am gyfnod hir yn y gêm ond i sgorio dwy o fewn 2 funud fel y gwnaethon nhw, fe ddylen nhw fod wedi medru dal mlaen."

Mae'r golled yn gadael Abertawe yn y 14eg safle yn y tabl.

Cyn y gêm dywedodd eu rheolwr Garry Monk bod angen i'w dîm ymladd am bob un pwynt tan ddiwedd y tymor.