Achos Gleision: rheithgor yn tyngu llw

  • Cyhoeddwyd
Malcolm FyfieldFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Mae Malcolm Fyfield yn gwadu dynladdiad

Mae rheithgor o wyth dynes a phedwar dyn wedi tyngu llw yn achos marwolaethau pedwar glöwr ym mhwll glo'r Gleision yn Nghwm Tawe.

Eisoes mae Malcolm Fyfield wedi gwadu pedwar cyhuddiad o ddynladdiad.

Mr Fyfield, 58, oedd rheolwr y lofa yng Nghilybebyll pan lenwodd y pwll gyda dŵr ym mis Medi 2011.

Mae perchennog y pwll, MNS Mining, hefyd wedi gwadu pedwar cyhuddiad o ddynladdiad corfforaethol.

Dywedodd y Barnwr Mr Ustus Wyn Williams ei fod yn disgwyl i'r achos barhau tan o leiaf ddiwedd mis Mehefin.