Taclo gordewdra plant
- Cyhoeddwyd

Dylai Llywodraeth Cymru werthuso ei chynlluniau niferus i fynd i'r afael â gordewdra plant, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad.
Dywed Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg eu bod yn sylweddoli nad oes un ateb penodol i'r broblem, ond maen nhw'nn pryderu nad yw Llywodraeth Cymru yn gallu dangos pa mor effeithiol yw rhai o'i rhaglenni.
Cyfraddau gordewdra plant yng Nghymru yw'r uchaf yn y DU, gyda 35% o blant dros bwysau neu'n ordew yn 2011.
Pryder y pwyllgor
Mae'r pwyllgor yn holi pam nad yw pecyn cymorth gafodd ei gyhoeddi yn 2010 wedi ei roi ar waith yn llawn.
Bwriad y pecyn, Llwybr Gordewdra Cymru Gyfan, oedd cynorthwyo pob sefydliad iechyd a sefydliad gofal cymdeithasol i drin y cyflwr.
Dywed y pwyllgor eu bod yn pryderu nad oes gwasanaethau ar lefel tri ar gael ar hyn o bryd, - y gwasanaethau gofal un-ac-un gan dîm arbenigol, sy'n rheoli rhaglenni deietegol, ymarfer corff a newid ymddygiad.
Maen nhw'n dweud eu bod yn derbyn mai blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yw sefydlu gwasanaethau ar lefel un a dau, sy'n canolbwyntio ar atal gordewdra, a thriniaeth gymunedol a gofal sylfaenol.
Ond mae'r pwyllgor yn poeni bod y diffyg gwasanaethau ar lefel tri, yn ei hanfod, yn golygu bod yn rhaid i blant a phobl ifanc aros nes maent yn oedolion cyn y gellir ystyried camau pellach ar eu cyfer.
Un o'n "problemau pwysicaf"
Dywedodd Ann Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: "Gordewdra plant yw un o'r problemau pwysicaf y mae angen i ni fynd i'r afael â hi.
"O fynd i'r afael â'r broblem yn gynnar, gellir hybu delwedd iach a gaiff ei hymgorffori yn y person drwy gydol ei oes, a byddai hynny'n arwain at lai o ddibyniaeth ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd20 Awst 2013
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2013