Arian i gynllunio pafiliwn newydd i Gorwen
- Cyhoeddwyd

Mae'n bosib mai canolfan i'r celfyddydau fydd yn cael ei adeiladu yng Nghorwen, wrth i'r cyngor sir edrych i ddymchwel Pafiliwn Corwen.
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cadarnhau y byddent yn derbyn grant gwerth £23,000, er mwyn paratoi cynlluniau i adeiladu canolfan newydd.
Byddai canolfan o'r fath yn costio o gwmpas £2m i'w hariannu.
Ond cyn bwrw ymlaen mi fydd raid i'r awdurdod gyfaddawdu gydag ymgyrchwyr lleol.
Mae'r ymgyrchwyr wedi defnyddio gwaharddebau llys er mwy atal y gwaith o ddymchwel y pafililwn presennol.
Brwydro ymlaen
Dywedodd llefarydd ar ran y grŵp "Achub y Pafiliwn," nad oeddynt am atal eu brwydr gyfreithiol yn erbyn y cyngor nes gweld cynlluniau penodol ar gyfer y ganolfan newydd.
Oherwydd problemau iechyd a diogelwch gan gynnwys asbestos a tho yn gollwng dŵr, bu yn rhaid cau'r Pafiliwn ym Mawrth 2010.
Ar y pryd, amcangyfrif o'r gost i atgyweirio'r adeilad oedd, £1.3m.
Penderfynodd y cyngor sir i'w ddymchwel gyda'r bwriad o adeiladu canolfan newydd.
Roedd y gwaith dymchwel i fod i ddigwydd ym mis Ebrill, 2011, ond oherwydd camau cyfreithiol bu rhaid gohirio hynny.
Mae'r pafiliwn yn un adnabyddus, yn gysylltiedig ag eisteddfodau a chyngherddau, gan gynnwys cyngerdd ffarwel Edward H Dafis yn y 70au. .
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2011