Anfodlondeb gyda chabinet Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Adeilad Cyngor Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,
Fe gyhoeddodd darpar Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Phil Bale, ei gabinet newydd nos Fawrth.

Mae pump o aelodau cabinet cyngor Caerdydd wedi ysgrifennu llythyr at arweinydd newydd y grŵp Llafur yn rhybuddio y "gallai ad-drefnu'r cabinet gael gwared â phobl â phrofiad sy'n gweithio'n dda gyda'i gilydd".

Fe gyhoeddodd darpar arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Phil Bale, ei gabinet newydd nos Fawrth.

Does dim swydd i Russell Goodway, a fu'n arweinydd y cyngor rhwng 1996 a 2004.

Roedd y Cynghorydd Goodway yn aelod o'r cabinet dros gyllid a datblygu economaidd ond fe fydd y rôl hwnnw nawr yn cael ei gynnwys yn nyletswyddau'r arweinydd newydd, Phil Bale, gan olygu bod nifer y cabinet yn lleihau o 10 i 9 aelod.

Mae Russell Goodway yn un o bedwar cynghorydd Llafur fydd yn gadael y cabinet.

Mae Mr Goodway, Lynda Thorne, Huw Thomas ac Ashley Govier wedi llofnodi llythyr yn codi pryderon am brofiad y cabinet o ystyried y "toriadau i'r gyllideb sydd yn dal i'w gwneud eleni a'r flwyddyn nesaf."

Pryderon

Mae'r llythyr hefyd wedi cael ei lofnodi gan Julia Magill sy'n cadw'i swydd yn gyfrifol am Addysg yng nghabinet newydd Phil Bale.

Mae'r cynghorydd Lynda Thorne, sydd wedi colli'i swydd fel llefarydd ar Adnewyddu Cymunedol a Chyfiawnder Cymdeithasol, wedi dweud wrth BBC Cymru mai bwriad y llythyr yw "annog arweinydd y cyngor i ystyried gwneud yn siŵr bod digon o brofiad yn y cabinet".

Dywedodd Ms Thomas: "Mae'n llythyr gan y pump ohonon ni yn esbonio'r sialensiau sy'n wynebu'r cyngor ac i godi pryderon am newid deinameg y cabinet a chael gwared â phobl gyda phrofiad sydd wedi gweithio'n dda gyda'i gilydd.

"Mae 'na newidiadau anferthol yn wynebu'r cyngor ac rydym yn credu y byddai'n well petaen ni'n cadw'r pump ohonan ni i mewn.

"Mae ganddon ni bryderon mawr am y newidiadau mawr sydd ar y gweill, megis toriadau i'r gyllideb sydd yn dal i'w gwneud eleni a'r flwyddyn nesaf. Dyma ydi'r rheswm ein bod yn teimlo ei fod angen cadw'r profiad hwnnw yn y tîm."

'Ffyddlon'

Mae cyllideb Cyngor Caerdydd wedi cael ei dorri £50 miliwn yn 2014/15 gyda £92m ychwanegol angen ei dorri dros y tair blynedd nesaf.

Dywedodd Lynda Thorne, cynghorydd Grangetown, na fyddai'r ad-drefnu yn effeithio'r grŵp Llafur, gan ychwanegu eu bod "i gyd yn aelodau ffyddlon o'r blaid. Pan fo penderfyniad yn cael ei wneud, mae wedi'i wneud, ac fe fyddwn ni gyd yn gwrando".

Mae eraill hefyd yn anfodlon gyda'r penderfyniadau, gan gynnwys y cynghorydd Ashley Govier.

Dywedodd y cynghorydd Ashley Govier ei fod wedi gwrthod cynnig i barhau yn llefarydd dros yr Amgylchedd yn y cabinet am "nad oedd yn fodlon bod amodau penodol wedi'u cyrraedd."

Dywedodd y cynghorydd Llafur dros Grangetown: "Roedd 'na nifer o bethau ro'n i'n anghyfforddus gyda nhw."

"Wrth ystyried swydd gabinet, rwyf angen adnabod y tîm o fy nghwmpas a doeddwn i ddim yn fodlon bod amodau penodol wedi'u cyrraedd (i mi allu ystyried y swydd)".

"Do'n i ddim yn cytuno gyda'r penderfyniad i gael gwared â'r cynghorydd Russell Goodway. Dwi'n credu y byddai'n gaffaeliad i unrhyw gabinet," meddai.

Fe fydd y Cynghorydd Huw Thomas yn colli'i le fel llefarydd ar Wasanaethau Oedolion, ac mae wedi dweud ei fod wedi sôn wrth arweinydd y grŵp Llafur y "byddai'n annhebygol o aros yn y cabinet yn y tymor hir" gan ei fod yn ymgeisydd dros Geredigion yn etholiadau San Steffan.

Dywedodd: "Mae wedi bod yn sefyllfa anodd i fi yn bersonol, o ystyried fy nghais am sedd Ceredigion yn Etholiad Cyffredinol y flwyddyn nesaf."

"Oherwydd hynny, ro'n i'n annhebygol i aros yn y cabinet yn y tymor hir. Mae'n siwtio fi'n iawn i adael nawr."

"Fe fyddai'n parhau i gefnogi'r cabinet. Dwi'n gobeithio y bydd ffordd y gall Lynda (Thorne) a Russell (Goodway) barhau i gynnig eu gwasanaethau i'r cabinet," meddai.

Mae'r cynghorydd Gretta Marshall hefyd wedi cyhoeddi y bydd yn gadael grŵp Llafur y cyngor gan ei bod yn rhwystredig am y diffyg menywod yn y cabinet newydd.

Dywedodd Ms Marshall: "Dwi'n anhapus iawn bod nifer o fenywod talentog a gafodd eu cyfweld am safleoedd o fewn y cabinet wedi cael eu hanwybyddu. O'r 9 aelod cabinet, dim ond 2 ohonyn nhw sy'n fenywod."

Fe fydd cynghorydd Splott yn gadael y meinciau Llafur yn ffurfiol ddydd Iau, gan leihau'r grŵp i 45 cynghorydd.

Y Cabinet newydd fydd: