22 o awduron i dderbyn £81,000
- Cyhoeddwyd

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd 22 o awduron yn derbyn ysgoloriaethau gwerth cyfanswm o £81,000 yn 2014.
Ers 2004, mae Llenyddiaeth Cymru wedi dyfarnu dros £1 miliwn ar gyfer Ysgoloriaethau i Awduron, gan alluogi 209 o awduron i ddatblygu eu gwaith mewn ystod o genres.
Mae'r ysgoloriaethau yn galluogi'r awduron i gymryd amser i ffwrdd o'u gwaith er mwyn canolbwyntio ar ysgrifennu creadigol, neu'n cefnogi costau teithio ac ymchwil.
Mae 11 o awduron eleni yn derbyn Ysgoloriaeth am y tro cyntaf, ond yn ogystal â chefnogi awduron newydd, mae Ysgoloriaethau wedi'i dyfarnu i nifer o awduron cyhoeddedig hefyd.
Ymysg yr awduron sy'n derbyn Ysgoloriaethau 2014 ar gyfer eu gwaith yn Gymraeg mae Mererid Hopwood, Robat Gruffudd, Karen Owen, Simon Brooks a John Fraser Williams.
Ymhlith yr awduron sydd wedi derbyn Ysgoloriaethau ar gyfer eu gwaith Saesneg mae: Euron Griffith, Mary-Ann Constantine, Samantha Wynne-Rhydderch, Tia Jones, Kaite O'Reilly a Robert Lewis.
Pwy ydi awduron 2014?
Mae 22 o awduron wedi derbyn Ysgoloriaethau i Awduron Llenyddiaeth Cymru 2014.
Mae Mererid Hopwood wedi ennill Y Goron, Y Gadair a'r Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ond dydy hi heb gyhoeddi cyfrol o'i cherddi ei hun hyd yn hyn. Bydd Ysgoloriaeth Awdur Cyhoeddedig yn caniatáu i Mererid gymryd amser i ffwrdd o'i gwaith academaidd er mwyn canolbwyntio ar ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth.
Bwriad y bardd a'r newyddiadurwr Karen Owen ydy "chwilio'r chwe chyfandir" er mwyn dod o hyd i feirdd eraill a anwyd yr un flwyddyn â hi. Bydd yn cyfuno elfennau llyfr taith, anthropoleg a newyddiaduraeth, ynghyd â barddoniaeth.
Bydd darllen difyr yn ein disgwyl wrth i'r awdur a'r cyhoeddwr Robat Gruffudd olygu a rhoi trefn ar ei ddyddiaduron personol, a ysgrifenwyd dros gynod o hanner canrif a mwy. Bydd y cofnod personol hwn hefyd yn adlewyrchu cyfnod eithriadol yn hanes Cymru.
Bwriada Simon Brooks ddefnyddio ei gyfnod Ysgoloriaeth er mwyn cwblhau cyfrol yn edrych ar ymwneud lleiafrifoedd ethnig â'r diwylliant Cymraeg ei iaith.
O Arfon i'r India, bydd Ysgoloriaeth yn caniatáu i John Fraser Williams i ysgrifennu cyfrol ffeithiol greadigol, sy'n cynnwys hanes ei daid a'i nain, a'u rôl yn y Genhadaeth yn Mizoram. Bydd dyddiaduron ei nain Hannah yn rhan hanfodol o'r naratif.
Ymhlith yr awduron sydd wedi derbyn Ysgoloriaethau ar gyfer eu gwaith Saesneg mae: Euron Griffith, Mary-Ann Constantine, Samantha Wynne-Rhydderch, Tia Jones, Kaite O'Reilly a Robert Lewis.
"Talentog a dyfeisgar"
Dywedodd Katie Gramich, Cadeirydd Panel Ysgoloriaethau Llenyddiaeth Cymru: "Y flwyddyn hon, blwyddyn canmlwyddiant Dylan Thomas, gallwn lawenhau yn y ffaith bod gan Gymru o hyd gronfa o awduron hynod dalentog a dyfeisgar, sy'n ysgrifennu yn y Gymraeg ac yn Saesneg, ac mewn amrywiaeth cyffrous o genres."
Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: "Mae cefnogi'r awdur ar bob cam o'i yrfa yn elfen graidd o waith Llenyddiaeth Cymru. Mae Ysgoloriaethau i Awduron yn caniatáu amser a chyfle i'r awduron ddatblygu eu hysgrifennu creadigol. Rydym yn ymfalchïo y bydd Ysgoloriaethau 2014 yn cefnogi nifer o awduron newydd, yn ogystal â rhai awduron profiadol."
Mae Llenyddiaeth Cymru yn dweud bod llwyddiannau nodedig Ysgoloriaethau'r gorffennol megis Tair Rheol Anrhefn (Y Lolfa) gan Daniel Davies ac Afallon (Y Lolfa) gan Robat Gruffudd, ill dau yn enillwyr Gwobr Goffa Daniel Owen, yn dangos bod y cynllun Ysgoloriaethau yn dwyn ffrwyth.
Yn ogystal, fe enillodd Tony Bianchi a Fflur Dafydd ill dau Y Fedal Ryddiaith am eu nofelau, sef Pryfeta (Y Lolfa) ac Atyniad (Y Lolfa).
Enillodd Gwyneth Lewis Goron Eisteddfod 2012 am ei chadwyn o gerddi ar thema "Ynys."