Evans: 'Cynllwyn' ydi'r honiadau
- Cyhoeddwyd
Roedd Nigel Evans AS wedi dweud wrth yr heddlu bod y cyn weithiwr yn Nhŷ'r Cyffredin sy'n honni iddo ymosod yn rhywiol arno yn "ganolog i we" o gynllwyn yn ei erbyn.
Yn Llys y Goron Preston, fe awgrymodd Mr Evans bod y dioddefwr honedig wedi "cynllunio digwyddiadau" gan ei fod yn ddolen gwswllt rhwng pedwar o ddynion eraill yn yr achos.
Mae AS Ribble Valley yn gwadu gwneud dim o'i le ac mae'n honni bod "cynllwyn" ar droed rhwng y dynion.
Mae Mr Evans, 56 oed, yn cael ei gyhuddo o ymosod yn rhywiol ar saith dyn ac, yn y llys yn Preston, clywyd ei ymateb i gwestiynau ditectifs pan gafodd ei arestio ym mis Mai y llynedd.
Roedd Mr Evans, wedi dweud wrth swyddogion bod yr honiad o dreisio wedi'i wneud oherwydd y berthynas "anhygoel o agos" rhyngddo â'r cyd-gyhuddwr a ddisgrifiodd yn "Maciafelaidd ac yn ystrywgar".
Ychwanegodd: "Maleisus ofnadwy. Anhygoel. Mae'n rhaid eu bod wedi trafod y pethau hyn."
Dyn ifanc 'wedi cydsynio'
Mae'r dyn, oedd yn 22 oed ar y pryd, yn honni bod Mr Evans wedi ei dreisio wedi parti yn ei dŷ yn Pendleton, Sir Gaerhirfryn, yn 2013.
Ond mae Mr Evans yn dweud bod y dyn ifanc yn "gyfrannwr parod" a'i fod wedi cydsynio i gael rhyw.
Fe holodd y swyddog pam bod y dyn ifanc wedi gadael tŷ Mr Evans y bore wedyn heb ddweud wrtho.
Atebodd gan ddweud "Roedd yn difaru ein bod wedi cael rhyw. Dwi'n derbyn hynny."
Gofynwyd hefyd iddo a oedd wedi yfed cymaint o alcohol yn y parti fel ei fod wedi amharu ar ei farn ar prun ai oedd y gŵr ifanc wedi cydsynio ai peidio.
"Yn sicr ddim", atebodd yr AS.
Mae Mr Evans, 56 oed, yn cael ei gyhuddo o ymosod ar saith dyn ifanc ar ddyddiadau amrywiol rhwng 2002 a'r llynedd drwy ddefnyddio ei ddylanwad gwleidyddol "pwerus" i gymryd mantais ohonyn nhw, yn aml tra'n feddw.
Mae'n gwadu un cyhuddiad o dreisio, dau o ymosod yn anweddus a chwech o ymosod yn rhywiol.
Dywedodd yr heddwas bod cyswllt honedig un o'r dynion ddim yn cyd-fynd gyda'r cyhuddiadau i gyd gan bod dau o'r dioddefwyr ddim yn adnabod y dyn dan sylw.
'Yn syfrdan'
Ond fe fynnodd yr AS mai'r cyn-weithiwr yn Nhŷ'r Cyffredin oedd y "cefndir i'r holl beth sydd wedi cael ei drefnu. Does dim dwywaith amdani."
Fe ofynnwyd iddo a oedd y cyhuddiadau, sy'n dechrau gyda chyffyrddiad rhywiol yn 2003 i'r cyhuddiad olaf o dreisio yn 2013, yn dangos "cynnydd yn y troseddu hyd at drais llawn".
Atebodd Nigel Evans "Na".
Dywedodd wrth swyddogion ei fod yn "syfrdan" ac "mewn penbleth" am y cyhuddiadau a'i fod yn gwadu'r cyfan.
Mae'r rheithgor wedi'u hanfon adre am y dydd a bydd yr achos yn parhau ddydd Iau.
Straeon perthnasol
- 25 Mawrth 2014
- 21 Mawrth 2014
- 13 Mawrth 2014