Marwolaeth Ynys Môn 'heb ei hesbonio'
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau bod marwolaeth menyw yn Rhosneigr ar Ynys Môn yn cael ei thrin fel un sydd heb ei hesbonio.
Fe gafodd yr heddlu eu galw i dŷ yn y pentref am 12:06yh ddydd Iau i gynorthwyo Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
Roedd hyn yn dilyn argyfwng meddygol yn ymwneud â menyw yn ei 50au yn gynharach.