Nigel Evans yn gwadu iddo dreisio na ymosod yn rhywiol
- Cyhoeddwyd
Mae Nigel Evans AS, cyn ddirprwy lefarydd Tŷ'r Cyffredin, wedi dweud wrth y rheithgor yn ei achos yn Llys y Goron Preston nad oedd wedi treisio nag ymosod yn rhywiol ar neb.
Yn gynharach ddydd Iau fe gafodd un o'r cyhuddiadau yn erbyn Nigel Evans ei newid.
Fe gyfeiriodd y Barnwr y rheithgor i ganfod Mr Evans, 56 oed ac yn wreiddiol o Abertawe, yn ddieuog o un cyhuddiad o ymosod yn rhywiol oedd yn ymwneud â digwyddiad honedig yn Nhy'r Cyffredin yn 2009.
Yn hytrach, cafodd y cyhuddiad ei newid i un gwahanol sef un o geisio ymosod yn rhywiol.
Fe gafodd y cyhuddiad newydd ei gyflwyno i Nigel Evans yn y doc, ac fe blediodd yn ddi-euog.
Mae Mr Evans bellach yn wynebu dau gyhuddiad o ymosod yn anweddus, un o geisio ymosod yn rhywiol, pump o ymosod yn rhywiol ac un o dreisio.
Mae'n gwadu'r holl gyhuddiadau ac mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- 26 Mawrth 2014
- 25 Mawrth 2014
- 21 Mawrth 2014
- 20 Mawrth 2014
- 19 Mawrth 2014
- 18 Mawrth 2014
- 17 Mawrth 2014
- 13 Mawrth 2014
- 12 Mawrth 2014
- 11 Mawrth 2014
- 10 Mawrth 2014