£1.3m ar y ffordd i gymunedau difreintiedig y Rhyl

  • Cyhoeddwyd
Y Rhyl
Disgrifiad o’r llun,
Ward orllewinol Rhyl oedd y mwyaf difreintiedig drwy Gymru yn 2011

Bydd rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig tref y Rhyl yn derbyn £1.3 miliwn gan lywodraeth Cymru dros y ddwy flynedd nesaf, fel rhan o gynllun Cymunedau yn Gyntaf.

Mae 52 ardal, neu 'glwstwr', Cymunedau yn Gyntaf yng Nghymru.

Bydd ardal Cymunedau yn Gyntaf y Rhyl a Dinbych Uchaf yn derbyn £1,291,479 dros ddwy flynedd hyd at fis Mawrth 2015, iddyn nhw gael parhau gyda'i gwaith.

Mae rhai o ardaloedd yn y Rhyl wedi dioddef y lefel uchaf o dlodi drwy Gymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Yn 2011, ward orllewinol y dref oedd y mwyaf difreintiedig drwy Gymru yn ôl mesurydd tlodi llywodraeth Cymru.

Mae Cymunedau yn Gyntaf yn gynllun sydd yn cael ei redeg gan lywodraeth Cymru mewn ymgais i helpu trigolion ardaloedd tlotaf y wlad.

'Gwella iechyd a ffyniant'

Y nod yw gwella iechyd a ffyniant yn yr ardaloedd hyn ac annog pobl i gymryd rhan mewn addysg, meddai'r llywodraeth.

Mae disgwyl i'r Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi, Vaughan Gething, ymweld â'r Rhyl ddydd Gwener i amlinellu cynllun y llywodraeth wrth glustnodi'r arian i rannau mwyaf difreintiedig y dref.

Wrth siarad cyn ei ymweliad, dywedodd Vaughan Gething: "Er gwaethaf y toriadau anferth i'n cyllidebau, rydym yn benderfynol o wneud popeth yn ein gallu i helpu pobl fwyaf anghenus Cymru.

"Dyna pam rydym yn buddsoddi £1.3 miliwn i helpu'r rhannau tlotaf o dref y Rhyl. Bydd Cymunedau yn Gyntaf yn helpu'r di-waith i gael hyd i swyddi ac yn gwneud yn siŵr bod pobl yn meithrin y sgiliau a'r addysg gywir i gael cyfleoedd gwell mewn bywyd."

Yn ôl llywodraeth Cymru mae bwriad i ehangu gwasanaeth Dechrau'n Deg yn ardal Sir Ddinbych hefyd.

Mae'r cynllun hwn yn cynnig gofal plant am ddim i rieni plant o dan bedair oed, yn ogystal â chymorth rhianta, gwasanaeth dwys gan ymwelwyr iechyd a help i ddatblygu iaith plant ifanc.