Adolygiad Catrin Beard o'r wasg a'r blogiau Cymraeg
- Cyhoeddwyd

Gwlad beirdd a chantorion yw Cymru yn ôl yr anthem genedlaethol, fel mae Gareth Ioan yn ein hatgoffa yn rhifyn y gwanwyn o'r Faner Newydd.
Ond cyhyd ag y bo'n gwybod, does dim sôn yn yr anthem am amaethwyr.
A'i gwestiwn yw ble fyddai Cymru a'r Gymraeg heb y sylfaen gadarn mae'r gymdeithas amaethyddol wedi'i chynnig i'r genedl drwy'r canrifoedd?
Gyda'n treftadaeth lenyddol a cherddorol yn mwynhau sylw, parch a bri drwy'r oesau, onid teg yw honni mai rhyw frawd bach di-nod fu ein hetifeddiaeth amaethyddol?
Ac mae'n herio darllenwyr y cylchgrawn i enwi mwy na llond llaw o fridiau amaethyddol cynhenid Gymreig - ydyn nhw'n gyfarwydd â Daeargi Sealyham, defaid bryniau Ceri neu wyddau llwydfelyn Brycheiniog tybed?
Gwersi i'w dysgu?
Falle mai ein haddysg sydd ar fai am beidio â dysgu digon i ni - yn yr Herald dywed Angharad Tomos mai'r hyn a'i diflasodd fwyaf yn ystod yr ysgol uwchradd oedd y modd y câi ei dysgu.
Roedd yna un dehongliad, roeddech chi'n ei ddysgu ar eich cof ac yn ei chwydu ar bapur arholiad er mwyn cael y marciau cywir.
Ac mae'n ei chael yn anodd credu ei bod, yn bymtheg oed, heb gael yr un wers yn yr ysgol sut roedd y Llywodraeth Ganolog yn gweithredu na'r un gair am lywodraeth leol.
Wyddai hi ddim oll am drethi, sut i brynu tŷ, beth oedd tai cyngor na beth ar y ddaear oedd morgais.
Ac mae'n gwaredu mae'r frawddeg bwysig a ddysgodd am yr Ail Ryfel Byd oedd 'Up to El Alamein we survived, after El Alamein we conquered'.
Castell y Bere
A beth bynnag am y gwersi hanes Cymru a gawsom yn yr ysgol, mae Rhys Mwyn yn yr Herald yn galw arnom i oresgyn eu diffygion a symud yr agenda yn ei flaen.
Un peth ddylem ni ei wneud meddai, yn hytrach na chwyno am gael ein gormesu ers 1282 a beio'r brenin Edward y Cyntaf am bopeth, yw cymryd perchnogaeth o'n hanes ein hunain, ac ymweld â chestyll tywysogion Gwynedd, fel Castell y Bere, lle treuliodd orig dawel yr wythnos ddiwethaf yn sugno'r awyrgylch, dychmygu, cyffwrdd ac eistedd mewn hedd perffaith hedd.
Dyma le meddai lle mae'r cloc yn tician yn arafach ac mae mor braf cael hyd i lecyn neu fangre fel hwn.
Wrth ddarllen erthygl amdano yn Golwg, alla i ond meddwl mai addysg ddiffygiol gafodd y cyflwynydd a'r cyn-ddigrifwr a'r Cymro achlysurol Griff Rhys Jones.
Ag yntau'n cyhoeddi cyfrol sy'n gronicl o'i ymweliadau niferus a brysiog â sawl rhan o Gymru, mae'n mynegi ei gariad a'i hoffter o nifer o elfennau o'r wlad, ond mae ganddo broblem â phobl sy'n dechrau siarad Cymraeg yn ei gwmni, bron fel na petai'n bodoli, a phobl sy'n defnyddio'r Gymraeg fel grym negyddol. Beth bynnag mae hynny'n ei feddwl.
Daily Mail
Ac yn ei flog mae Vaughan Roderick yn tynnu sylw at erthygl yn y Daily Mail rai dyddiau'n ôl yn atgyfodi'r stori eto fyth am blentyn na châi fynd i'r tŷ bach yn yr ysgol am nad oedd yn gofyn yn Gymraeg - yn Aberteifi y tro hwn.
Fel y dywed Vaughan, mae hon yn stori sydd wedi hongian o gwmpas fel oglau drwg i'w hatgyfodi bob tro y mae rhyw bolemic neu'i gilydd yn cael ei sgwennu ynghylch yr iaith.
Oes, mae digon gennon ni i'w ddysgu, o sut i ddehongli'n hanes i beth yw bridiau amaethyddol y genedl - a chofiwch ddysgu unrhyw blentyn sut i ofyn am gael mynd i'r tŷ bach ym mhob iaith gallwch chi feddwl amdani - jest rhag ofn....
Mae adolygiad Catrin Beard o'r wasg a'r blogiau Cymraeg yn cael ei ddarlledu bob bore Gwener ar y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru ychydig cyn saith o'r gloch.