Dyn yn y môr ger Rhosili wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae dyn oedd yn y môr ger clogwyn ym Mhenrhyn Gŵyr wedi marw.
Cafodd y gwasanaethau brys wybod ychydig wedi 3pm a chafodd Gwylwyr Glannau a hofrennydd yr Awyrlu eu galw i Rosili.
Aed â'r dyn mewn hofrennydd i Ysbyty Treforys ger Abertawe.