Diffoddwyr yn taclo tân mawr mewn canolfan ailgylchu

  • Cyhoeddwyd
Tân safle ailgylchu
Disgrifiad o’r llun,
Roedd y mwg i'w weld yn codi o'r safle fore Gwener

Mae dros 70 o ddiffoddwyr yn delio gyda thân mawr mewn canolfan ailgylchu ar gyrion Caerdydd.

Cafodd y Gwasanaeth Tân eu galw i safle Atlantic Waste Management, ar Ffordd Newton, Tredelerch am tua 1.30yb fore Gwener, ac mae disgwyl iddyn nhw barhau yno gyda'u gwaith dros nos.

Roedd y gwasanaeth yn dweud bod hanner yr uned ar dân.

Roedd llawer o wastraff ar dân, yn ogystal a rhai adeiladau, cerbydau a rhwng 30 a 40 o silindrau nwy.

Dywedodd Gwasanaeth Tan ac Achub De Cymru bod dros 2000 o dunnelli o wastraff ar y safle, ac y byddai'r digwyddiad yn debygol o "barhau am ddyddiau nid oriau".

Mae wyth pwmp ar y safle, ac mae pwmp arebnnig wedi ei alw i dynnu dŵr o byllau agos.

Dywedodd Heddlu'r De bod y safle wedi ei gau oherwydd perygl y silindrau nwy.

Dydy achos y tân heb ei gadarnhau eto.

'Dyddiau nid oriau'

Dywedodd Pete Jenkins, rheolwr y Gwasanaeth Dân ar y safle: "Mae nifer o silindrau nwy anhysbys yn rhan o'r tân sy'n berygl difrifol i ddiffoddwyr.

"Rydyn ni nawr yn canolbwyntio ar oeri'r silindrau yna i leihau'r risg i ddiffoddwyr ar y safle.

"Mae'r tân wedi ei amgylchynu [gan ddiffoddwyr] ar dair o'r pedair ochr ar hyn o bryd ac rydyn ni'n rhoi llawer o ddŵr ar y tân.

"Mae llawer o ddeunydd sydd heb ei losgi eto hefyd ac rydyn ni'n gweithio'n galed i atal hynny rhag digwydd.

"Rydw i'n hyderus y gallwn ni ddelio gyda'r digwyddiad ond oherwydd natur y deunydd ailgylchu a faint sydd ar y safle, dwi'n rhagweld y bydd yn cymryd nifer o ddyddiau yn hytrach nag oriau."

Yn ddiweddarach bnawn Gwener, dywedodd y gwasanaeth tân y bydd diffoddwyr tân yno dros nos a thrwy'r penwythnos i'w gadw dan reolaeth.

Mae nhw'n cydweithio gyda'r heddlu, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Caerdydd, Dŵr Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i geisio sicrhau nad yw'n amharu'n ormodol ar y gymuned a busnesau lleol.

Mae'r mwg yn chwythu ar draws yr ardal yn cael ei asesu gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ac mae'r cyhoedd yn cael eu argymell i gau'u ffenestri a'u drysau am y tro.