David Moffett yn cyflwyno ei gais i fod ar fwrdd URC

Mae cyn-brif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, David Moffett wedi bod yn cyflwyno ei gais i gael ei ethol i fwrdd yr undeb.
Mr Moffett oedd yn gyfrifol am y newid i rygbi rhanbarthol yng Nghymru yn ystod ei amser wrth y llyw, ac mae wedi bod yn feirniadol o'r ffordd mae'r undeb yn cael ei reoli yn ddiweddar.
Mae ei faniffesto yn cynnig rhoi mwy o arian i rygbi ar lawr gwlad, creu perthynas well gyda'r rhanbarthau ac ail-drefnu dyled URC.
Ysgrifennodd Mr Moffett at y 320 o glybiau yng Nghymru yn gofyn am eu cefnogaeth.
Mae angen i ddau ohonyn nhw ei enwebu ar gyfer y bleidlais sy'n cael ei gynnal ym mis Awst.
Roedd Mr Moffett yn brif weithredwr rhwng 2002 a 2005, ac roedd yn brif weithredwr Rygbi Rhanbarthol Cymru (Regional Rugby Wales) am gyfnod byr rhwng 2008 a 2009.
Dywedodd yr undeb nad oedd unrhyw fwriad ymateb i'r maniffesto ar hyn o bryd.