Gyrrwr lori finiau yn cyfaddef achosi marwolaeth
- Cyhoeddwyd
Mae gyrrwr lori finiau wedi cyfaddef achosi marwolaeth pensiynwr drwy yrru'n ddiofal .
Bu farw Ian Mason, 89, o'i anafiadau wedi iddo gael ei daro gan y lori ar West Kinmel Street yn Y Rhyl ym mis Gorffennaf y llynedd.
Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug cyfaddefodd Garry Fletcher, 38 o'r Rhyl, iddo achosi marwolaeth Mr Mason drwy yrru heb y gofal a'r sylw dyladwy.
Cafodd yr achos ei ohirio tan fis Ebrill gan y Barnwr Niclas Parry.
Yn y cyfamser, cafodd Mr Fletcher ei wahardd rhag gyrru.
Straeon perthnasol
- 16 Gorffennaf 2013