Cadw Cymru'n Daclus yn derbyn dros £1m gan y Llywodraeth
- Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn rhoi £1m i Cadw Cymru'n Daclus, er mwyn gwella ansawdd yr amgylchedd a gwneud Cymru'n lle gwell i fyw.
Bydd y cyllid o £1,090,000 yn helpu cefnogi eu prosiect "Trefi Taclus," sydd yn helpu cymunedau i wella eu hardal leol, a thaclo problemau fel fandaliaeth, sbwriel a thipio anghyfreithlon.
Yn ogystal mae cadw Cymru'n Daclus yn rhoi cyngor i'r llywodraeth ar bolisïau am yr amgylchedd.
Cyfleoedd hyfforddi
Meddai John Griffiths, gweinidog Adnoddau Naturiol, Diwylliant a Chwaraeon Cymru: "Mae'r bwysig ein bod yn teimlo balchder yn yr ardaloedd lle rydym yn byw.
"Dwi'n edrych ymlaen at weld sut bydd yr arian yma yn cael ei ddefnyddio i daclo problemau a gwella'r amgylchedd ar hyd Cymru."
Meddai Lesley Jones, prif weithredwr Cadw Cymru'r Daclus: "Mae'r gefnogaeth yn golygu gallwn roi cyfleoedd hyfforddi a gwirfoddoli trwy nifer o weithgareddau fydd yn gallu gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl."