Cymraes yn cofio am ei hewythr fu yng ngwersyll Dyce
- Cyhoeddwyd

Mae hanes Walter Roberts yn gyfarwydd i haneswyr y Rhyfel Byd Cyntaf oherwydd yr hyn ddigwyddodd iddo mewn gwersyll yn Dyce, ger Aberdeen.
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Gwrthwynebwyr Cydwybodol ddydd Iau, bydd ei nith, Siw Wood, o Lithfaen ger Pwllheli, yn mynd i gynhadledd arbennig yn Llundain i gofio am ei hewythr ac eraill.
Bu farw Mr Roberts ym mis Medi 1916, ychydig ddyddiau cyn ei ben-blwydd yn 21.
Ar yr un adeg ag y cafodd Walter ei symud i'r gwersyll yn yr Alban roedd ei frawd, Alfred - tad Siw - yn mynd trwy dribiwnlysoedd milwrol oherwydd ei fod yntau hefyd wedi gwrthod ymladd.
'Amser erchyll'
Meddai Siw, sydd wedi olrhain hanes ei theulu: "Be sy'n dod i fy meddwl i ydy, roedd hyn yn amser erchyll i Nain a Taid.
"Ar y dechrau roedd Walter wedi cael ei garcharu yn Wormwood Scrubs.
"Yno, daeth ar draws dynion megis Bertrand Russell a Fenner Brockway, a ddaeth yn AS ac yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi, a frwydrodd dros hawliau dynol.
"Yna cafodd ei yrru i'r gwersyll yn Dyce, ac roedd yn gweithio mewn chwarel yno gyda'r carcharorion eraill.
"Tra yno fe ysgrifennodd lythyr at fy nhad, yn disgrifio'r amgylchiadau yn Dyce.
"Cafodd o'r ffliw, a disgynnodd o'i wely ar lawr gwlyb, a marw rai dyddiau wedyn o niwmonia."
'Gorchymyn Duw'
Daeth ei gorff adref ar ddiwrnod ei ben-blwydd ac fe'i claddwyd ym Mhenarlâg, ble'r oedd cartre' gwreiddiol y teulu.
Esboniodd Siw beth oedd wedi digwydd i'w thad: "Mae'n debyg nad oedd o'n ddigon ffit i fynd draw i Ffrainc, roedd ganddo broblem gyda'i gefn - roedd yn dioddef o dro yn ei asgwrn cefn (twisted spine).
"Oherwydd ei fod yn gwrthod ymuno â'r fyddin, roedd tribiwnlysoedd yn disgwyl y buasai yn gweithio ar y tir fel labrwr fferm.
"Yn un o'r toriadau papur newydd am yr achos, roedd fy nhaid, Llywelyn Roberts, a oedd yn Grynwr, yn dweud fel rhan o'i dystiolaeth ei fod wedi dysgu ei feibion i ufuddhau i orchymyn Duw, i beidio lladd.
"Ac wrth wneud hyn, doedd o ddim yn deall ei fod wedi torri cyfraith y wlad.
"Roedd fy nhad wedi chwilio am waith ar sawl fferm, ond roedd ffermwyr eisiau labrwyr cryf. Yn ogystal, efallai bod rhai wedi cymryd yn ei erbyn oherwydd nad oedd yn fodlon mynd i ryfel.
"Apeliodd am gael ei eithrio o wasanaeth milwrol ac aeth o flaen tribiwnlys arall, a'r un gorchymyn gafodd o, sef i ddod o hyd i waith ar fferm."
Erbyn hyn roedd Awst wedi troi yn Fedi, a newyddion drwg am ei frawd Walter ar y ffordd o Dyce.
Am weddill y rhyfel, bu Alfred yn chwilio am waith heb orfod mynd o flaen rhagor o dribiwnlysoedd.
Cau gwersyll Dyce
Meddai Siw: "Dwi'n meddwl bod marwolaeth Walter wedi dychryn yr awdurdodau, a doedden nhw ddim eisiau delio gyda'i frawd.
"Ymwelodd y gwleidydd, Ramsey McDonald, â Dyce yn fuan ar ôl marwolaeth Walter, ac oherwydd amodau byw gwael yno fe'i caewyd i lawr."
Cafodd y gwersyll ei drafod yn San Steffan a, phrin ddeufis ar ôl ei agor, cafodd ei gau ar Hydref 19 a chafodd y 250 o Wrthwynebwyr Cydwybodol oedd yno eu hanfon i garchardai ar hyd a lled Prydain.
Ychwanegodd Siw: "Wrth gwrs roeddwn yn gwybod bob dim am hanes Walter.
"Ers yn ddim o beth, roeddwn yn gwrando ar fy nhad yn dweud hanesion amdano,
"Ond doeddwn i ddim yn gwybod am hanes fy nhad tan yn fwy diweddar.
"Yng nghanol yr 1980au, roedd fy merched yn perfformio mewn cyngerdd yn Llundain, ac roeddwn wedi gweld yng Nghylchlythyr y Crynwyr fod Fenner Brockway yn siarad am y Rhyfel Byd Cyntaf.
"Felly es i'r cyfarfod a siarad gyda Fenner.
"Roedd o yn gwybod am fy ewythr, ond dechreuodd sôn am fy nhad a pha mor ddewr roedd o wedi bod.
"Felly fe es i drwy'r papurau teulu eto er mwyn darganfod mwy."
Colli gwaith
Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf, aeth Alfred ymlaen i weithio gyda chwmni paent Mardens, fel cynllunydd cartref.
Meddai Siw: "Roedd o wedi gobeithio astudio pensaernïaeth yn y coleg, fel Walter, ond yn yr amser yna dim ond un plentyn roedd teulu yn gallu helpu trwy goleg."
Daeth rhyfel eto i darfu ar fyd Alfred, oherwydd gorchmynwyd y cwmni i ddechrau gwneud paent cuddliw adeg yr Ail Ryfel Byd.
Gwrthododd wneud hynny, a chollodd ei waith.
Aeth ymlaen i werthu yswiriant nes iddo ymddeol.
Bydd y gynhadledd ddydd Iau yn dadorchuddio carreg gyda phlac i gofio'r gwrthwynebwyr cydwybodol yn Tavistock Square, Llundain.
Straeon perthnasol
- 15 Mai 2014
- 18 Mawrth 2014
- 28 Tachwedd 2013
- 22 Ionawr 2014