300 yn protestio yn erbyn cynllun tai Gwynedd a Mon
- Cyhoeddwyd
Mae tua 300 o bobl wedi bod yn protestio ar y Maes yng Nghaernarfon yn erbyn cynlluniau i adeiladu 8,000 o dai yng Ngwynedd ac Ynys Môn.
Roedd y brotest, gafodd ei threfnu gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn galw am ohirio'r cynllun datblygu lleol nes y bydd gwaith ymchwil wedi ei gwblhau i fesur anghenion tai a gwasanaethau ym mhob cymuned yn y sir.
Mae cynghorau Gwynedd ac Ynys Môn yn ymgynghori ar eu cynlluniau datblygu lleol ar hyn o bryd.
Nod y cynllun yw codi bron i 8,000 o dai yn y ddwy sir yn ystod y ddegawd nesaf.
Beirniadu am ddatblygiadau mawr
Mae'r Gymdeithas yn poeni y gallai 8,000 o dai gael effaith andwyol ar yr iaith Gymraeg, ac yn galw am dai i bobl leol yn benodol.
Dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae gan y cynghorau hyn y cyfle i arwain y ffordd ar gyfer siroedd eraill, a herio ystadegau'r Llywodraeth hyd eithaf eu gallu.
"Dylen nhw ymchwilio'n fanwl ac yn gynhwysfawr i'r anghenion lleol, cyn clustnodi'r un fodfedd o dir ar gyfer datblygwyr. Rydym yn falch bod cynifer o gynghorwyr, awduron, ymgyrchwyr ac eraill wedi datgan eu cefnogaeth i'n hymgyrch yn barod."
Mae cynghorau Gwynedd a Môn wedi eu beirniadu yn hallt dros y misoedd diwethaf am gymeradwyo datblygiadau mawr.
Ym Mangor mae trigolion Penrhosgarnedd wedi ymgyrchu yn erbyn ceisiadau cynllunio i adeiladu cannoedd o dai newydd yno.
Maen nhw wedi cwyno nad oedd y cynlluniau yn ystyried yr angen lleol am dai newydd na chwaith effaith mewnfudwyr ar yr iaith.
Mesur Cynllunio'r Gymdeithas
Yn siarad cyn y rali, meddai'r awdures Angharad Tomos a fydd yn annerch y dorf yn y dref: "Nid syniad o'r tu allan yn cael ei wthio arnom mo hwn, megis Land and Lakes, ond cynllun yn cael ei roi gan ein cyngor ni ein hunain - Cyngor Gwynedd"
"Rydw i wedi blino deud NA wrth bopeth. Rydw i eisiau dweud "Ie" am unwaith… IE i ddatblygu lleol felly, ar yr amod ein bod yn datblygu sir ar ein telerau ni, ac er budd cymunedau Gwynedd.
"Neges syml sydd gennym. Dywedwch NA wrth y Cynllun Datblygu Estron ac IE i Gynllun Datblygu Gwirioneddol Leol."
Wrth ymateb i feirniadaeth yn gynharach eleni, dywedodd Cyngor Gwynedd bod llywodraeth Cymru yn gofyn i bob awdurdod cynllunio lleol baratoi cynllun datblygu lleol a fydd yn nodi cyflenwad digonol o dir datblygu i gwrdd ag anghenion yr ardal.
Maen nhw'n dweud eu bod yn gofyn i "gynghorwyr lleol a chynghorau tref a chymuned gyflwyno sylwadau ar amrywiaeth o safleoedd datblygu posibl, gan bwysleisio efallai na fydd angen pob un o'r safleoedd hyn i fodloni'r gofyniad am dai newydd yn ystod cyfnod y cynllun.
"Bydd y cynllun drafft yn cael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ym Mai/Mehefin 2014 yn dilyn cymeradwyaeth Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn."
Straeon perthnasol
- 7 Chwefror 2014
- 31 Rhagfyr 2013
- 10 Rhagfyr 2013