Rhieni April Jones yn beirniadu Cameron

  • Cyhoeddwyd
April Jones
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd April, 5 oed, o Fachynlleth, ei llofruddio gan Mark Bridger ym mis Hydref 2012

Mae rhieni April Jones, y ferch 5 oed o Fachynlleth gafodd ei llofruddio, wedi beirniadu'r Prif Weinidog, David Cameron am fethu â thaclo delweddau o gamdrin plant ar y we.

Dywedodd Paul Jones ei fod yn teimlo bod o wedi cael ei "dwyllo" gan y Prif Weinidog, ac fe gyhuddodd ef o dorri'i addewid o geisio atal delweddau o gamdrin ar y rhyngrwyd.

Ond fe ddywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog fod Mr Cameron wedi arwain ymdrechion i gael gwared o ddelweddau o gamdrin plant oddi ar y we.

Cafodd April, 5 oed, o Fachynlleth, ei llofruddio gan Mark Bridger ym mis Hydref 2012 wedi iddo edrych ar ddelweddau o'r fath ar ei gyfrifiadur.

Mis Tachwedd diwethaf, roedd Google a Microsoft wedi lansio cynllun i'w gwneud hi'n anoddach i ddod o hyd i ddelweddau o blant yn cael eu camdrin ar y we.

Ni fydd hyd at 100,000 o dermau chwilio ar Google a Bing yn cyflwyno canlyniadau bellach a bydd neges yn cael ei dangos yn dweud bod delweddau o gamdrin plant yn anghyfreithlon.

Roedd Mr Cameron wedi bygwth cyflwyno deddf newydd, os na chaiff y mesur ei weithredu.

Roedd wedi gosod rhes o gamau fyddai'n amddiffyn plant rhag gwefannau "gwenwynig", gan gynnwys ffiltrau sy'n atal unrhyw luniau anweddus oni bai bod cwsmeriaid wedi cytuno fel arall.

Disgrifiad o’r llun,
Roedd llofrudd April, Mark Bridger, wedi bod yn edrych ar ddelweddau o gamdrin plant ar ei gyfrifiadur.

Ond ddydd Gwener, dywedodd tad April Jones nad oedd digon wedi'i wneud yn y frwydr yn erbyn lluniau anweddus.

Dywedodd: ''Dwi'n credu ei fod wedi'n twyllo ni rywfaint drwy ddod allan yn bangio'r drymiau, ond dydy o ddim wedi rhoi unrhyw arian yn ei le - mae wedi'i adael i'r cwmnïau rhyngrwyd.

"Pan gwrddes i David Cameron, fe ddywedais i 'anela'n uchel' - ond mae wedi syrthio'n bell o'r marc."

Roedd Coral a Paul Jones wedi lansio ymgyrch flaenllaw yn dilyn llofruddiaeth eu merch.

Fe gafwyd Mark Bridger, 47 oed, yn euog o gipio ac o lofruddio April ym mis Hydref 2012.

Roedd yr achos wedi tynnu sylw at y broblem gynyddol o gamddefnyddio'r rhyngrwyd wedi iddo ddod i'r golwg bod Bridger wedi bod yn edrych ar ddelweddau o blant yn cael eu camdrin oriau'n unig cyn marwolaeth April.

O ganlyniad, fe gytunodd David Cameron i gwrdd â'r rhieni y llynedd i drafod a thaclo'r broblem.

Dywedodd llefarydd o Downing Street: ''Mae'r Prif Weinidog wedi arwain yr ymdrechion i gael gwared o ddelweddau o gamdrin plant oddi ar y we, ac mae Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol newydd wedi ei sefydlu, yn ogystal â chreu ffiltrau diogelu plant arlein ac hefyd cytundeb am y tro cyntaf gan y prif gwmniau chwilio'r we, sydd wedi cytuno i rwystro delweddau o'r fath.

''Wrth gwrs, mae wastad mwy sydd angen ei wneud ac rydym yn parhau i gydweithio gyda gwledydd eraill, a diwydiannau a grwpiau eraill i weld pa gamau pellach mae modd eu cymryd.''

Mae'r feirniadaaeth yn dod wrth i reoleiddiwr fideo arlein, Atvod, ddweud bod angen newid y ddeddf i amddiffyn plant rhag gweld deunydd oedolion ar y rhyngrwyd, ac i wefannau pornograffi wirio oedran y cwsmer cyn cael mynediad.